Mae Rhian Beresford, 29, o Lundain wedi’i chyhuddo o lofruddio Stefan Melnyk, 54, ym mis Mawrth.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio George Pantazi a’i glwyfo’n fwriadol.

Yn ystod gwrandawiad yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener (Medi 4), plediodd yn ddieuog i’r cyhuddiadau.

Bydd gwrandawiad pellach y flwyddyn nesaf – yn y cyfamser bydd yr amddiffynnydd yn cael ei chadw yn y ddalfa.