Gyda Phrifysgolion Cymru yn croesawu cnwd newydd o fyfyrwyr ddiwedd y mis, mae golwg360 wedi ceisio darganfod sut maen nhw’n mynd ati i baratoi yn sgil pandemig y coronafeirws…
Prifysgol Abertawe wedi diweddaru ei Siarter Myfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi anfon gwybodaeth ynghylch y coronafeirws at ei staff a’i myfyrwyr.
Ar ben hyn, mae’r brifysgol wedi diweddaru ei Siarter Myfyrwyr er mwyn cynnwys ei disgwyliadau o fyfyrwyr yn sgil pandemig y coronafeirws.
“Rydym yn llunio ein dulliau cyflwyno er mwyn sicrhau y bydd pob myfyriwr – boed yn Abertawe, yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig neu’r rhai o bedwar ban byd a fydd yn ymuno â ni’n ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd pan fydd yr amgylchiadau’n caniatáu hynny – yn rhan lawn o’n cymuned,” meddai Prifysgol Abertawe.
Mae’r brifysgol yn bwriadu cyfuno addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb fel y bo’n briodol.
Ymysg mesurau addysgu eraill mae:
- Cyflwyno addysg wyneb yn wyneb mewn fformat cymysg heb unrhyw ddarlithoedd mawr i ddechrau.
- Cofrestru ac yn ymsefydlu myfyrwyr ar-lein yn ogystal â chynnal wythnos groeso ym mis Medi a mis Ionawr.
- Bydd llety’r Brifysgol ar gael fel arfer gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith.
- Cynorthwyo a chefnogi myfyrwyr rhyngwladol, os bydd rheolaethau cwarantin ar waith ar yr adeg pan fyddant yn cyrraedd.
“Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd i staff, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr,” ychwanegodd Prifysgol Abertawe.
Cymysgedd o ddysgu ar y campws ac ar-lein ym Mhrifysgol Bangor
Bydd sesiynau byw ar y campws fel seminarau, sesiynau ymarferol a thiwtorialau yn cael eu cyflwyno mewn grwpiau bach ym Mhrifysgol Bangor er mwyn “gallu pellhau’n gymdeithasol”.
“Lle mae’n briodol, mae staff hefyd yn gweithio ar ddarparu sesiynau ymarferol ar-lein, gan gynnwys defnyddio meddalwedd arloesol mewn labordy.
“Yn ogystal, mae staff yn gweithio ar ffyrdd arloesol a chyffrous newydd o addysgu, megis sesiynau byr wedi’u recordio, bydd yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol i ddatblygu cymunedau dysgu gyda chyd-fyfyrwyr a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel.”
Ond bydd faint o gyrsiau myfyrwyr fydd yn cael eu darparu ar y campws neu ar-lein yn dibynnu ar bethau megis:
- Faint o’r cwrs penodol sy’n cynnwys darlithoedd mawr, seminarau, gwaith ymarferol a gwaith maes.
- Y rheolau a’r canllawiau sy’n ymwneud â Covid-19 y mae’n rhaid i’r brifysgol gydymffurfio â nhw.
“Rydym yn ceisio sicrhau bod gennym yr hyblygrwydd i gynyddu faint o addysgu byw sydd ar y campws pan allwn,” meddai’r brifysgol.
Dull dysgu “hyblyg ac addasadwy” – Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi dweud ei fod yn ceisio sicrhau dull dysgu “hyblyg ac addasadwy” ar gyfer pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd ddiwedd mis Medi.
“Mae angen i’n dull o ddysgu ac addysgu fod yn hyblyg ac yn addasadwy i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn y profiad dysgu o ansawdd uchel a fydd yn eich helpu i lwyddo,” meddai datganiad gan y brifysgol i fyfyrwyr.
“Ni fydd darlithoedd mawr yn cael eu cynnal ar y campws ond byddant ar ffurf gweithgareddau dysgu ar-lein o ansawdd uchel, deniadol a gwell, ynghyd â gweithgaredd ar y campws.
“Lle gellir cwrdd â gofynion pellhau cymdeithasol, mae’n debygol y bydd ymgysylltu ar y campws ar ffurf addysgu mewn grwpiau bach fel sesiynau tiwtorial neu sesiynau clinigol, stiwdio a labordy.
Dywed y brifysgol ei fod yn “ail-weithio ein hadeiladau i wneud y mwyaf o’r lle a roddir i addysgu.
“Mae gennym dîm ymroddedig yn gweithio ar hyn fel y gallwn ddarparu cymaint o ddysgu â phosibl ar y campws.”
“Gymaint o’r dysgu ag sy’n bosibl yn digwydd wyneb yn wyneb” – Prifysgol Aberystwyth
Bydd “gymaint o’r dysgu ag sy’n bosibl yn digwydd wyneb yn wyneb” ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r brifysgol yn dweud bod “cynlluniau ar waith i er mwyn i fyfyrwyr fod gyda ni ar gampws sydd wedi ei addasu”.
“Rydym yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth ac yn gweithio gyda’r Cyngor Sir a’r Bwrdd Iechyd lleol er mwyn cyflwyno mesurau cynhwysfawr a fydd yn diogelu iechyd a lles pob myfyriwr,” meddai’r brifysgol.
Bydd systemau un ffordd yn cael eu cyflwyno ar draws y campws, tra bod cynlluniau ystafelloedd dosbarth yn cael eu haddasu.
Ar ben hynny, bydd arwyddion a threfniadau glanhau ar draws y campws.