Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i adroddiadau bod Tony Abbott, cyn-Brif Weinidog Awstralia, mewn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â chymryd rôl yn trafod masnach ar ran Llywodraeth Prydain.
Yn ôl yr wrthblaid mae Tony Abbott yn anaddas i gynrychioli’r Deyrnas Unedig oherwydd ei farn ar newid hinsawdd a’i sylwadau homoffobig.
Eglurodd Keir Starmer, Arweinydd y Blaid Lafur fod ganddo “bryder gwirioneddol” ac na fyddai’n penodi Tony Abbott pe bai’n brif weinidog.
Pwysleisiodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain, nad yw cyn-Brif Weinidog Awstralia wedi cael ei benodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Nid yw wedi cael ei benodi a hyd y gwn i ni chafwyd unrhyw apwyntiadau eu gwneud”, meddai wrth siarad â Sky News.
“Mae llawer o bobol yr wyf yn anghytuno â nhw, ond dydw i ddim am amddiffyn pobol nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn cyflawni unrhyw rôl i Lywodraeth Prydain.”
Mae’n debyg i gyn-Brif Weinidog Awstralia ddod yn ffrindiau â Boris Johnson pan oedd yn Ysgrifennydd Tramor.
Llythyr agored
Mae grŵp o ymgyrchwyr cydraddoldeb – gan gynnwys yr awdur o Abertawe, Russell T Davies – wedi ysgrifennu llythyr agored i’r Llywodraeth yn erbyn penodiad cyn-Brif Weinidog Awstralia.
“Nid yw’r dyn hwn yn ffit i gynrychioli Prydain fel ein llysgennad masnach”, meddai’r llythyr.