Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd wedi bod yn trafod ei brofiadau yn gwisgo teclyn cymorth clyw.
Mark Isherwood yw Hyrwyddwr Seneddol Grŵp Anableddau’r Ceidwadwyr, ac mae wedi bod yn siarad am ei brofiadau yn ystod sesiwn cwestiwn ac ateb y Grŵp.
Pan ddaeth i fyd gwleidyddiaeth yn 2003 roedd yn ddibynnol ar declyn cymorth clyw, a thrafododd yr heriau a wynebodd ar y pryd.
“Yn ffodus, roedd y Cynulliad yn gefnogol iawn, gan sicrhau fod gennyf y cyfarpar oedd ei angen arnaf i ddilyn trafodaethau yn y Siambr ac mewn Pwyllgorau.
“Er hynny, roedd rhaid i mi eu perswadio i gynnig yr un ddarpariaeth mewn trafodaethau trawsbleidiol, a chyfarfodydd eraill oedd yn cael eu cynnal yn Senedd Llundain.”
“Llais, dewis, rheolaeth ac annibyniaeth i bobol ag anableddau”
“Er bod Senedd Cymru yn honni ei bod yn lle hygyrch i bobol ag anableddau, mae’n rhaid eu hatgoffa yn aml fod rhwystrau yn bodoli yno yn sgil eu methiant i ystyried profiadau Pobol ag anableddau,” meddai Mark Isherwood.
“Mae gormod o swyddogion hunanbwysig yng nghyrff cyhoeddus Cymru yn parhau i ddweud wrth bobol ag anabledd beth sydd ar gael iddynt, yn hytrach na gwrando ar eu hanghenion.
“O fy mhrofiad i, mae hyn yn niweidiol, costus, ac yn hawdd i’w osgoi.”
Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod pawb yn “sylweddoli nad anableddau pobol sy’n eu rhwystro, ond, yn hytrach, y rhwystrau sydd yn cael eu rhoi mewn lle gan gymdeithas.
“Mae’n rhaid i ni weithio gyda phobol ag anableddau i gael gwared ar y rhwystrau, gweld y byd trwy eu llygaid nhw, a rhoi iddynt lais, dewis, rheolaeth ac annibyniaeth haeddiannol.”