Mae Caroline Jones, cyn-Aelod o’r Senedd UKIP a’r Blaid Brexit, wedi cyhoeddi ei bod hi’n targedu sedd Carwyn Jones yn etholiad Senedd Cymru’r flwyddyn nesaf.
Bu yn Aelod dros Dde Cymru ers 2016 a bellach mae yn Aelod Annibynnol o’r Senedd. Ond mae hi’n llygadu sedd Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad Mai 2021.
Gadawodd Caroline Jones grŵp UKIP yn y Senedd y llynedd cyn ymuno â grŵp Plaid Brexit.
Fis diwethaf gadawodd grŵp Plaid Brexit gan ddweud bod y blaid honno bellach wedi cyflawni ei nod o adael yr Undeb Ewropeaidd, ond hefyd ei bod hi’n anghytuno â’u safiad ar ddatganoli i Gymru.
“Mae’n bryd i wleidyddion fod yn atebol i bobol Pen-y-bont ar Ogwr a Porthcawl ac nid caethweision i’w plaid wleidyddol”, meddai Caroline Jones.
“Am rhy hir, mae ein gwleidyddion etholedig – Llafur a Cheidwadwyr – wedi rhoi eu pleidiau gwleidyddol yn gyntaf yn hytrach na buddiannau trigolion lleol.
“Dyna pam rwy’n rhoi fy enw ymlaen fel Ymgeisydd Annibynnol yn Etholiad Senedd Cymru’r flwyddyn nesaf – i ailffocysu blaenoriaethau pobol Pen-y-bont ar Ogwr a Porthcawl.”
Galw am ethol ymgeiswyr Annibynnol ledled y wlad
Mae Caroline Jones yn galw am ethol ymgeiswyr Annibynnol ledled y wlad i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd ac ennyn diddordeb Cymry yn llywodraethiant eu gwlad.
“Nid oes cyfle gwell i newid gwleidyddiaeth yn y wlad hon nag wrth i ni wella o’r pandemig dinistriol Covid-19 a fydd nid yn unig yn cyflwyno heriau i’n Gwasanaeth Iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd i economi Cymru.
“Mae datganoli yn broses esblygol – rwy’n cael yr argraff bod rhai Aelodau o’r Senedd yn eistedd yn eu tyrau ifori ac yn gweld eu hunain uwchlaw’r pleidleiswyr hynny sy’n eu hanfon i Fae Caerdydd yn y lle cyntaf.
“Rwyf yn awyddus i droi hyn ar ei ben. Mae’n bryd inni ddod a’r agwedd yma i ben ac ailffocysu ein hamcanion ar wasanaethu ein cymunedau a chynnwys pobol yn y broses benderfynu.”
Mae Caroline Jones wedi byw yn y de ar hyd ei hoes a bu’n dysgu mewn ysgolion ym Mhencoed a Llanharan.
Treuliodd gyfnod hefyd yn gweithio fel swyddog yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn 2005, sefydlodd fusnes ym Mhorthcawl, ac mae ganddi bump eiddo mae’n eu rhentu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cefndir sedd Pen-y-bont ar Ogwr
Carwyn Jones yw’r unig wleidydd i gynrychioli etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr ym Mae Caerdydd – bydd y cyn-Brif Weinidog yn camu o’i sedd yn 2021.
Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad adeg agor y sefydliad yn 1999, a’i benodi’n Weinidog yr Amgylchedd yn 2003.
Bu hefyd yn Weinidog Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, yn Gwnselydd Cyffredinol ac yn Arweinydd y Tŷ cyn dod yn Brif Weinidog yn 2009.
Yn fuan ar ôl rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog yn 2018 cyhoeddodd ei fod wedi’i benodi’n Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.