Drwy gyfrannu i elusen wrth archebu ystafell gyda chwmni gwestai Travelodge, mae gwesteion wedi llwyddo i godi £1 miliwn.
Mae’r arian, sydd wedi ei godi drwy wasanaeth cyllid digidol Pennies sy’n rhoi’r dewis i gwsmeriaid gyfrannu 50 ceiniog at achosion da, wedi ei rannu rhwng elusennau gafodd eu dewis gan weithwyr Travelodge.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Travelodge, Tom Edwards fod “ein gwefan yn denu dros filiwn o bobol bob wythnos, ac mae’n blatfform gwych i gwsmeriaid allu cyfrannu eu harian mân i elusen, a gwneud gwahaniaeth i fywydau eraill.
“Rydym yn falch, ac yn ddiolchgar iawn i’n cwsmeriaid am fod mor hael, ac am godi £1 miliwn i gefnogi elusennau fel ein partner presennol, y British Heart Foundation.
Diolchodd Paul Davies, Pennaeth Partneriaethau Corfforaethol y British Heart Foundation, gan ddweud: “Drwy haelioni cwsmeriaid Travelodge rydym wedi derbyn bron i £500,000, a fydd yn ariannu ymchwil pwysig er mwyn dod a ni yn agosach at ddarganfod triniaeth i glefyd y galon, a chlefydau yn ymwneud â system gylchrediad y gwaed.
“Mae pob ceiniog yn cyfrif wrth geisio cadw’r galon yn curo a’r gwaed yn llifo.”