Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol yr wythnos yma mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 eu bod nhw’n argymell y dylai unrhyw un sy’n dangos symptomau Covid-19 – tagu’n barhaus, gwres neu golli’r gallu i flasu neu arogli – drefnu i fynd am brawf.

Daw hyn ar ôl i Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, alw am brofion Covid-19 rheolaidd mewn ysgolion.

Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru “i roi sicrwydd i athrawon, rhieni a disgyblion” er mwyn cynnig darlun cyflawn o ble y gallai’r coronafeirws fod yn cylchredeg.

‘Isel yw’r budd lle mae’r achosion yn isel’

Mewn ymateb i sylwadau Rhun ap Iorwerth, eglurodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360 mai “isel yw’r budd” o brofi pobol lle mae’r achosion o Covid-19 yn isel, ac y gall hyn arwain at ynysu pobol yn “ddiangen”.

Canfu astudiaeth fyd-eang gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL), ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain bod plant hanner mor debygol o ddal y coronafeirws, o gymharu ag oedolion, ond mae’n parhau i fod yn aneglur pa mor debygol yw plant o drosglwyddo’r feirws i bobol eraill.

“Mae tystiolaeth yn awgrymu mai isel yw’r budd o ddefnyddio profion asymptomatig rheolaidd lle mae nifer yr achosion o’r feirws yn isel”, meddai’r llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn argymell profi ar gyfer y rhai sydd â pheswch, twymyn, neu golli neu newid yn yr ymdeimlad o flas neu arogl.

“Dylai unrhyw un sy’n arddangos y symptomau hyn hunanynysu a threfnu i gael prawf am ddim drwy’r porth archebu ar-lein, neu drwy ffonio 119.”

Ond ychwanegodd y llefarydd y “gall profion mewn achosion isel greu nifer uchel o ganlyniadau positif ffug, gan arwain at ynysu pobol a’u cysylltiadau’n ddiangen.”

Masgiau mewn mannau cymunedol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf ei bod yn argymell y dylai staff a disgyblion mewn ysgolion uwchradd wisgo masgiau mewn mannau cymunedol lle nad yw pellter cymdeithasol yn bosib.

Tra bod hi’n ofynnol i blant dros 11 oed wisgo masgiau, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, a’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams mewn datganiad ar y cyd fod “fawr o werth i orchuddion wyneb i blant o dan 11 oed”.