Mae Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, wedi galw am brofion Covid-19 rheolaidd mewn ysgolion.

Os oes gan rhywun o leiaf un symptom o Covid-19 – tagu’n barhaus, gwres, colli’r gallu i flasu neu arogli – mae modd gwneud cais am brawf.

Ond mae Plaid Cymru yn awyddus i weld trefn debycach i gynghreiriau pêl-droed ar waith mewn ysgolion.

Mae pêl-droediwr yn yr Uwchgynghrair yn derbyn profion ddwywaith yr wythnos.

“Os yw’n ddigon pwysig i’n pêl-droediwr, dylai fod yn ddigon pwysig i’n hathrawon, ein myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn ein hysgolion”, meddai Rhun ap Iorwerth.

Er bod y drefn o ddychwelyd yn amrywio rhwng ysgolion ac awdurdodau lleol bydd y mwyafrif o ysgolion yn croesawu disgyblion yn ôl yn raddol wythnos yma ac yn ystod pythefnos cyntaf y tymor newydd.

‘Ysgolion yw’r mannau anhysbys newydd’

Yn ôl Rhun ap Iorwerth “ysgolion yw’r mannau anhysbys newydd”.

“O gofio ei bod mor bwysig iddynt aros ar agor, ac yn ddiogel i bawb ynddynt, mae’n gwneud synnwyr defnyddio’r capasiti profi yng Nghymru i roi sicrwydd i athrawon, rhieni a disgyblion fel bod gennym ddarlun cyflawn o ble y gallai Coronafeirws fod yn cylchredeg.”

“Gwyddom fod plant – a llawer o oedolion – yn aml ddim yn arddangos symptomau neu’n yn arddangos symptomau ysgafn iawn.

“Felly’r unig ffordd o fod yn siŵr o weld y darlun llawn yw defnyddio’r capasiti profi sydd gennym gymaint â phosibl i ddod ag achosion a chlystyrau i’r amlwg.”

Ychwanegodd fod hyn yn arbennig o bwysig wrth i bobol ddychwelyd o wyliau i ysgolion, gan fod mwy o berygl o drosglwyddo’r firws wrth ddod yn ôl o wyliau i leoliadau penodol.

‘Gwyliadwriaeth eang’

“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhaglen ’wyliadwriaeth eang’ i ni” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Dylent ddechrau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod fod coronafeirws yn cylchredeg, dylent brofi mor eang â phosibl, a dylai’r samplu rheolaidd hwn ddechrau rŵan, wrth i ddisgyblion ddychwelyd i ysgolion.”