Mae mwy o bobol yn symud i’r Alban o weddill gwledydd Prydain nac sydd yn symud oddi yno erbyn hyn, meddai adroddiad newydd gan y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Fewnfudo a’r Boblogaeth.

Ers canol 2001, mae mewnfudwyr i’r Alban wedi arwain at gynnydd o 137,000 ym mhoblogaeth yr Alban.

Dros y pum degawd blaenorol roedd mwy o Albanwyr yn symud o’r wlad i rannau eraill o’r DU, nag oedd yn mewnfudo yno o Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda’r adroddiad yn nodi bod 399,000 o bobol yn fwy wedi gadael yr Alban am rannau eraill o’r DU, na symudodd yno, rhwng 1951-52 a 2000-01.

Ond bellach mae’r adroddiad yn datgan bod “yr Alban wedi newid o fod yn wlad oedd yn gweld lefelau uchel o allfudo, i un sydd yn profi effaith gadarnhaol mewnfudo ar dwf y boblogaeth.”

Rhybudd am raniadau posib

Mae’r adroddiad hefyd yn rhbuddio am raniadau posib rhwng y dinasoedd, sydd yn tueddu i ddenu mwy o bobol, a chefn gwlad yr Alban.

Mae’r mewnfudwyr yn tueddu i fod yn ifanc, “ac i ryw raddau ag addysg well,” yn ôl yr adroddiad.

Golyga hyn fod “symudiad o bobol ifanc yn ymgasglu yn y dinasoedd sydd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd addysg uwch iddynt.”

Er bod yr ardaloedd hyn yn elwa o “ddynamiaeth economaidd,” mae peryg i “ardaloedd eraill sydd â phoblogaethau hŷn, galw uwch am wasanaethau cyhoeddus, a phrinder bobol ifanc â chymwysterau uchel, gael eu gadael ar ôl.”

Cwestiynau pwysig am adnoddau cyhoeddus

Dywedodd y Grŵp Cynghori Arbenigol fod hyn yn codi cwestiynau pwysig am sut i rannu adnoddau cyhoeddus:

“Ar un llaw mae dinasoedd mawrion yr Alban yn edrych fel petaent am greu cynnydd economaidd yn y dyfodol; ond ar y llaw arall mae’r ardaloedd gwledig yn gynyddol ddibynnol ar wasanaethau cyhoeddus yn sgil eu demograffeg a’r newid sydd i sefydliadau addysg uwch yn y wlad.”

Croesawodd y Gweinidog Mewnfudo, Ben Macpherson, yr adroddiad, ond derbyniodd fod yr Alban yn parhau i wynebu “problemau mawr gyda’r boblogaeth” yn sgil lleihad mewn genedigaethau a gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae disgwyl i’r cynnydd fydd ym mhoblogaeth y wlad am y 25 mlynedd nesaf ddeillio o fewnfudo.

“Pe bai lefelau mewnfudo o’r Unde Ewropeaidd i’r Alban yn haneru, yna fydd canran y boblogaeth sydd o oed gweithio yn disgyn 1%, a chanran [y boblogaeth sy’n blant] yn disgyn 4.5%,” meddai’r Gweinidog Mewnfudo.

Ychwanegodd: “Ynghyd â defnyddio ein pwerau datganoledig i ddenu rhagor o fewnfudwyr o Brydain a thu hwnt, mae’n rhaid i ni gael pwerau newydd i alluogi i Lywodraeth yr Alban gyflwyno polisïau ac atebion priodol er mwyn datrys anghenion y wlad, a’r problemau sydd yn codi yn sgil y ddemograffeg.”