Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gwadu bod y clwb wedi derbyn cynnig gan Leeds am Ben Cabango.
Mae’r Yorkshire Evening Post yn adrodd bod y tîm yn Elland Road yn awyddus i ddenu amddiffynnwr canol arall i gysgodi’r capten Liam Cooper a Robin Koch wrth iddyn nhw ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf ers 2003.
“Dyma’r tro cyntaf i fi glywed am hynny, a does dim cynnig wedi dod,” meddai’r rheolwr yn ei gynhadledd cyn y gêm yn erbyn Casnewydd yn Rodney Parade yng Nghwpan Carabao ddydd Sadwrn (Medi 5).
Mae Cabango, 20, wedi’i alw i garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn y Ffindir heno (nos Iau, Medi 3) ac yn erbyn Bwlgaria ddydd Sul (Medi 6) yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Roedd disgwyl iddo ymuno â Tyler Roberts yng ngharfan Cymru, ond mae ymosodwr Leeds wedi tynnu’n ôl oherwydd anaf, ac mae’n cael ei gysylltu â throsglwyddiad i Derby.
“Dw i’n falch iawn o Ben”
Mae Ben Cabango yn un o nifer o chwaraewyr ifainc yr Elyrch sydd wedi dod trwy’r Academi, sydd newydd gael ei hisraddio i Lefel 2 ar ôl pedair blynedd o fod yn gyfleuster Lefel 1.
Yn ôl Steve Cooper, bydd taith Cabango hyd yn hyn gyda’r Elyrch yn ei helpu ar y llwyfan rhyngwladol.
“Dw i’n falch iawn fod Ben gyda’r tîm cenedlaethol,” meddai.
“Fe raddiodd e o’r Academi, mae e’n chwaraewr wnaethon ni roi cyfleoedd iddo fe y llynedd ac fe gymerodd e’r rheiny.
“Mae e bellach wedi cael cydnabyddiaeth drwy gael ei alw i’r tîm cenedlaethol.
“Felly mae hynny’n hawlio’r penawdau, dw i’n meddwl, ac yn rhywbeth y dylen ni dalu sylw penodol iddo fe.
“Ry’n ni’n falch iawn o Ben, p’un a fydd e’n chwarae neu beidio dy’n ni ddim yn gwybod.
“Ond pan ddaw e ’nôl, bydd e’n sicr yn chwaraewr gwell o fod wedi cael y profiad rhyngwladol llawn.”
Cynlluniau tymor hir – “ffordd bell i fynd”
Yn ôl Steve Cooper, mae gan yr Elyrch gynlluniau tymor hir ar gyfer Ben Cabango, ac maen nhw’n awyddus i gadw chwaraewr maen nhw wedi bod mor barod i fuddsoddi ynddo fe.
“Fe wnaethon ni roi cytundeb tymor hir iddo fe y llynedd,” meddai.
“Fe welson ni ei botensial cyn gynted ag y gwnaethon ni ddod â fe i mewn i’r brif garfan cyn dechrau’r tymor ac mae e wedi parhau i wneud cynnydd.
“A’r peth mwyaf cyffrous yw fod ganddo fe ffordd bell i fynd o hyd.
“Mae Ben yn gymeriad gwych, yn uchel ei barch, mae’n cymryd gofal mawr am ei bêl-droed a’i yrfa.
“Mae e’n ddysgwr da, mae e eisiau gwella bob dydd ac rydyn ni wir yn mwynhau mynd drwy’r broses honno gyda fe.”