Rydw i’n methu pêl-droed gymaint, mi wnes i ystyried mynd dros y ffin i wylio gêm gyfeillgar Northwich Victoria ddydd Sadwrn. Mae Lloegr yn caniatáu i gemau gael eu chwarae ar y funud tra bo clybiau Cymru, o dan lefel yr Uwchgynghrair yn dal i ddisgwyl am ddyddiad ar gyfer ailgychwyn.

Wnes i benderfynu peidio teithio  yn y diwedd oherwydd y cyfyngiadau  – dim ond 150 o bobl oedd yn cael mynediad i’r gêm a doeddwn i ddim eisiau gyrru’r holl ffordd yna wedyn methu mynd i fewn.