Dydi Dafydd Glyn Jones ddim yn poeni gormod am y penderfyniad i barhau i ganu ‘Rule Britannia’ – creadigaeth Sgotyn o’r enw James Thomson – yn y Proms…

“Gadewch i Saeson a Phrydeinwyr, fel i ninnau, gael eu hwyl efo rhai pethau. Mae cerdd Thomson, os nad yn glasur, yn grair hanesyddol ac yn mynegi math o feddylfryd. ‘Britons never never never shall be slaves’. Iawn. Ac nid yw’n dweud y dylai neb arall fod yn ‘slaves’ chwaith… Math o orffwylledd yw’r don bresennol o gywirdeb gwleidyddol, â’r effaith yn rhy aml o gymylu barn a dod rhyngom â gwir gwestiynau moesol…

Darllen heddiw hefyd fod Llywydd ein Senedd yn mynd i gerdded trigain milltir i godi arian at y Gwasanaeth Iechyd… Faint o bres a godir gan bererindod Elin, ni wyddom, ond gallwn fod yn sicr o un peth: un ehediad gan y Red Arrows a bydd y swm hwnnw, a llawer mwy, wedi mynd mewn tri lliw gyda’r gwynt.” (glynadda.wordpress.com)

I Carrie Harper, y cynghorydd o Wrecsam, un o’r cwestiynau moesol hynny ydi ail gartrefi…

“Mae’n argyfwng sy’n cael ei gyrru gan alw am dai o’r ochr arall i’r ffin ac, mewn tirwedd post-Covid a post-Brexit, dim ond cynyddu wnaiff o. Gyda Brexit yn codi pris yswiriant iechyd ac efallai gyfyngiadau eraill ar deithio a pherchnogaeth cartrefi hefyd, gallai llawer benderfynu ailystyried eu dewisiadau wrth ymddeol. Ychwanegwch gyfyngiadau teithio posib oherwydd Covid ac mae Costa del Cymru yn bosibilrwydd go-iawn… Mae amser yn mynd; unwaith y bydd ein cymunedau wedi mynd, fydd dim modd eu hadfer ac mae llawer ar y dibyn. Mae ecosystemau ein cymunedau mor fregus ag unrhyw safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, unrhyw res o fynyddoedd neu laswelltir.” (nation.cymru)

Ac mae Dic Mortimer yn gweld bygythiad tebyg ar raddfa ehangach… a’r proc iddo feddwl felly oedd stori newyddion am eiriau Americanaidd yn treiddio i’r Sacsoneg…

“R’yn ni yng Nghymru yn gwybod yn iawn am oresgyn diwylliannol; dyna brif arf ein coloneiddwyr ymerodrol ers 500 mlynedd. Felly, dw i’n cael mymryn o foddhad wrth weld y Saeson yn cael eu crogi gan eu rhaff eu hunain; y bwldog Brits balch yma fel arfer yn ildio fel cŵn rhech, heb y gŵyn leia’, i oruchafiaeth, cymhathiad a hegemoni diwylliannol yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, o edrych ar y darlun mwy, dim ond blas yw’r broses o’r hyn y mae’r ideolegwyr asgell dde eithafol sy’n rhedeg y Deyrnas Unedig yn ei gynllunio ar gyfer y wladwriaeth ddi-drefn, bwdr, ddrwg hon.

Holl bwrpas y Brecsitwyr oedd mynd yn fwy a mwy tebyg i’r UDA, dileu cyfreithiau sydd wedi eu cynllunio i liniaru effeithiau gwael cyfalafiaeth ar gyflogaeth, yr amgylchedd, yr hinsawdd, bwyd, iechyd ac ati. A thanio ras, pawb drosto’i hun tua’r gwaelod nes bod eu Prydain annwyl yn hafan drethi ddireol yn y môr, wedi’i phreifateiddio’n llwyr a’i threfnu er budd corfforaethau tramor, arian budr, biliwnyddion a noddwyr y Torïaid.” (dicmortimer.com)

Whiw!