Mae’r Athro Gerwyn Wiliams yn cyhoeddi’r cofiant cyntaf i un o fawrion yr 20fed ganrif yng Nghymru – Cynan. Rhwng cloriau’r llyfr 500-tudalen, fe gewch chi wybod am holl ddrama bywyd Cynan – Archdderwydd (dwbl) o Bwllheli, bardd ‘Mab y Bwthyn’ sef un o bryddestau mwyaf yr 20fed ganrif, Sensor cenedlaethol yn myd y ddrama am 20 mlynedd, ac un a fu’n allweddol ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo’r Tywysog Siarl yn 1969. Dyma ambell damaid i aros pryd o’r llyfr,