Rwy’n teimlo braidd yn anesmwyth am Radio Cymru.
Wedi’r cyfan, dyma’r unig orsaf radio genedlaethol sy’n cynnig gwasanaeth i ni, y Cymry Cymraeg.
Ond y gwir amdani, fe gredaf, yw mai rhywbeth blinedig iawn yr olwg yw’r orsaf, erbyn heddiw, gyda gormod o’r un hen wynebau yn cynnig yr un hen fath o raglenni i’r un hen gynulleidfa – sy’n brysur edwino.
Megis: Dewi Llwyd, Beti George, Hywel Gwynfryn, Dei Tomos, John ac Alun, Shân Cothi – a Dafydd a Caryl (ar Radio Cymru 2). Rhai ohonyn nhw wedi bod yn ein diddanu ers y 1960au! Mae’n wir fod yr orsaf wedi denu rhywfaint o dalent newydd (megis Lisa Gwilym) ond rwy’n ofni fod yr hen wynebau, erbyn hyn, yn dechrau niweidio brand yr orsaf fel gwasanaeth cyfoes, cyffrous a diddorol.
Ac ar ben hyn, peth go ddiflas ac undonog yw arlwy’r orsaf. Prin, er enghraifft, yw rhaglenni arbennig am bynciau penodol. Yn hytrach, mae’r arlwy yn canolbwyntio ar:
- adloniant ysgafn (tebyg i Radio 2) lle mae cyflwynydd yn chwarae miwsig tra’n sgwrsio gydag ambell westai
- newyddion (Post Cyntaf, Dros Ginio a Post Prynhawn)
- lot o grefydd ar ddydd Sul
- chwaraeon ar ddydd Sadwrn.
Heblaw am yr uchod, cawsom y rhaglenni yma’r wythnos diwethaf:
- rhaglen am Geraint Jarman
- rhaglen am Iolo Morgannwg
- Rhys Iorwerth (boi da) yn trafod yr Ail Ryfel Byd – ac
- Elin Tomos yn trafod hen bapurau newydd.
Pedwar rhaglen yn unig, dros wythnos gyfan, yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r fformiwla arferol.
Mae’n anodd, felly, i unrhyw ddarpar-wrandäwr edrych ar wefan Radio Cymru (neu ap Sounds y BBC) a dod o hyd i raglen a fydd yn trafod rhywbeth o ddiddordeb iddynt. Pwy a ŵyr, er enghraifft, beth fydd i’w drafod ar Bore Cothi’r wythnos nesaf?
Mae fel mynd i fwyty a darllen bwydlen sy’n cynnig ‘Dechreufwyd, Prif Gwrs a Phwdin’ – heb ddisgrifio beth yn union sydd ar gael.
Ac, o’r herwydd, mae’n debyg y bydd ffigyrau gwrando Radio Cymru yn dechrau mynd i dir trychinebus.
Cymharer yr uchod gydag arlwy Radio 4 ar gyfer un dydd yn unig (sef y cyntaf o Fedi):
Rhaglen am awtistiaeth; rhaglen am lyfrgelloedd; rhaglen am tatoos; rhaglen am y clo mawr yn Bradford; rhaglen am sgwennu creadigol yn Nigeria (a hyn oll yn ystod y bore!).
Yn y prynhawn: rhaglen am hwylio; drama gan Agatha Christie; rhaglen am y bygythiad sy’n wynebu gwahanol fathau o bryfed; rhaglen am euogrwydd – a rhaglen am Ernest Bevin.
A dyna ni wedi cyrraedd amser te!
Beth yw hyn ond enghraifft arall o Gymry Cymraeg yn gorfod derbyn gwasanaeth eilradd? Ond beth sydd ar fai? Ai diogi ymhlith arweinwyr Radio Cymru? Ai rhyw deimlad o anobaith (’does neb yn gwrando, felly pam gwneud unrhyw ymdrech?‘)? Ai diffyg arian? Diffyg syniadau creadigol?
Yn sicr mae yna ddiffyg ymdrech i esbonio’n llawnach ar wefan yr orsaf beth sydd i’w glywed ar raglen Shân Cothi et al.
Oherwydd, yn y pendraw, os nad yw arlwy Radio Cymru i’w weld mor amrywiol, difyr a diddorol ac arlwy Radio 4, yna pam ddylwn wrando o gwbl? Nid yw’r ddadl ei fod yn werth gwrando gan ei fod yn Gymraeg yn ddigonol erbyn heddiw.
Mae S4C wedi cyflawni ambell i wyrth yn ddiweddar, er mwyn sicrhau (gyda’i gyllid prin) arlwy ffres, cyfredol ac amrywiol. Mae hefyd wedi buddsoddi yng ngwefan y sianel, sydd nid yn unig yn eich tywys yn fanwl drwy arlwy’r wythnos – ond sydd hefyd yn eich galluogi i gofrestru er mwyn derbyn newyddion i’ch blwch e-bost am raglenni sy’n debyg o fod o ddiddordeb i chi.
Mae S4C wedi cyrraedd 2020.
Rwy’n ofni fod Radio Cymru yn styc yng nghyfnod y Diwygiad, y ceffyl a’r drol a Llyfr Mawr y Plant.