Mae Sean Fitzpatrick, aelod newydd o fwrdd y Scarlets, yn awyddus i’r rhanbarth wynebu Seland Newydd mewn gêm arbennig i ddathlu 150 mlynedd ers dechrau’r clwb a 50 mlynedd ers i Lanelli guro’r Crysau Duon ym Mharc y Strade.
Curodd Llanelli’r Crysau Duon 9-3 ym mis Hydref 1972.
“Byswn i wrth fy modd yn gweld y Crysau Duon yn chwarae yn Llanelli – byddai hynny’n anghredadwy”, meddai mewn digwyddiad ar-lein arbennig i gefnogwyr y Scarlets.
Ymunodd Sean Fitzpatrick, cyn-gapten Seland Newydd, â bwrdd rheoli’r Scarlets fis diwethaf.
Ar ôl rhyddhau Brad Mooar, cyn Brif Hyfforddwr y Scarlets, yn gynnar i ymuno a thîm hyfforddi Seland Newydd eleni mae’n debyg bod y Scarlets mewn trafodaethau ag Undeb Rygbi Seland Newydd i ddatblygu’r berthynas rhwng y rhanbarth a’r undeb.
Yn y cyfarfod ar-lein, awgrymwyd hefyd byddai modd i chwaraewyr a hyfforddwyr y Scarlets ymweld â Seland Newydd er mwyn datblygu eu sgiliau.
Nid 1972 yw’r unig dro i Seland Newydd ymweld â Pharc y Strade – yn 1989 collodd Llanelli 0-11 i’r Crysau Duon, ac roedd colled drom arall yn ei herbyn yn 1997, 3-81.