Mae Sean Fitzpatrick, cyn-gapten tîm rygbi Seland Newydd, wedi ymuno â bwrdd rheoli’r Scarlets.

Enillodd y cyn-fachwr 92 o gapiau dros ei wlad rhwng 1986 a 1997, gan arwain y tîm 51 o weithiau.

Roedd e’n aelod o garfan y Crysau Duon enillodd Gwpan Rygbi’r Byd y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, yn 1987.

Bellach yn siaradwr cyhoeddus a sylwebydd, mae’n gadeirydd ar y Laureus World Sport Academy ac yn aelod o fwrdd rheoli’r Harlequins ers 2008.

Fe fydd ei rôl yn y Scarlets yn golygu ei fod yn gyfarwyddwr anweithredol ac yn llysgennad byd-eang.

Daw’r newyddion ar ôl i Simon Muderack ddod yn Gadeirydd Gweithredol wrth olynu Nigel Short.

‘Wedi cyffroi’n lân’

“Dw i wedi cyffroi’n lân o gael ymuno â chlwb sydd â’r fath hanes cyfoethog,” meddai Sean Fitzpatrick.

“Mae’r traddodiad ac angerdd mor debyg i Seland Newydd a’r Scarlets yw’r amgylchfyd agosaf i Seland Newydd dw i wedi’i brofi, wedi’i leoli’n llwyr yn y gymuned, gyda ffocws llwyr ar ddatblygu talent lleol a balchder yn eu gorchestion.

“Mae’r strwythurau datblygu’n rhagorol, ac mae hynny’n amlwg yn nifer chwaraewyr yr Academi sy’n dod drwodd ac yn ennill cytundebau fel oedolion ac yn mynd yn eu blaenau i ennill anrhydeddau rhyngwladol, ac mae’n debyg o ran y strwythurau hyfforddi hefyd.

“O ran cyfleusterau Parc y Scarlets, maen nhw gystal ag yr ydw i wedi’u gweld yn unman yn y byd.

“Dw i’n cofio teithio yma.

“Chwaraeais i yn y gêm yn ’89 ar Barc y Strade yn y gwynt a’r glaw a chael profi angerdd gorllewin Cymru drosof fi fy hun.

“Dw i hefyd yn teimlo bod gen i gysylltiad personol â rygbi Cymru, mae yn fy ngwaed.

“Chwaraeodd fy nhad yn erbyn Cymru yn y gêm yn 1953, y tro cyntaf i Gymru guro’r Crysau Duon, ac enwogion fel Phil Bennett a Gareth Edwards oedd arwyr fy mhlentyndod.”

Gweledigaeth

Mae Sean Fitzpatrick hefyd wedi talu teyrnged i ba mor gryf yw gweledigaeth y Scarlets.

“Mae’r bwrdd yn eithriadol o gryf o ran ei ddyfnder, gydag ymrwymiad ar y cyd i weledigaeth a gwerthoedd cryf,” meddai.

“Mae’r uchelgais o ran ceisio tyfu’r clwb yn rhywbeth sydd yn fy nghyffroi’n lân; mae’r clwb yn uchelgeisiol a dw i’n hoff o hynny.

“Mae’r byd yn newid ac mae Covid wedi cyflymu’r newid hwnnw.

“Rydyn ni mewn sefyllfa i siapio rygbi am y 25 mlynedd nesaf; mae’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud nawr yn debyg i’r rhai roedden ni’n eu gwneud 25 mlynedd yn ôl.

“Dw i’n gweld hwn yn gyfle gwirioneddol i gael dylanwad a helpu i dyfu’r gêm wych hon.”

Croeso

Mae Simon Muderack wedi croesawu Sean Fitzpatrick i’r rhanbarth.

“Mae gallu croesawu rhywun â doniau Sean yn adrodd cyfrolau, nid yn unig am uchelgais y Scarlets i ddod yn frand byd-eang yn y byd rygbi ond hefyd am ba mor ddeniadol yw’r hyn sydd gyda ni yma a’r hyn mae’r clwb wedi’i adeiladu,” meddai.

“Mae brand y Scarlets eisoe yn cael ei ddeall yn dda ar y llwyfan byd-eang, ac fe fydd cael ychwanegu enw Sean Fitpatrick at y llu o dalent sy’n gysylltiedig â’r clwb yn adeiladu ar hynny ac yn ehangu’r apêl y tu hwnt i’r hyn yw e heddiw.”