Mae Clwb Criced Morgannwg wedi rhoi cytundeb proffesiynol cyntaf i’r wicedwr 16 oed Alex Horton o Drecelyn, fydd yn ei gadw gyda’r sir am o leiaf bum mlynedd.
Mae’n un o’r chwaraewyr ieuengaf yn hanes ail dîm y sir, ac yn aelod o’r Academi.
Cytundeb datblygu fydd ganddo fe am y flwyddyn gyntaf, wrth iddo gwblhau ei TGAU cyn llofnodi cytundeb llawn amser cyn y tymor nesaf.
Daeth ei gêm gyntaf i’r ail dîm yn erbyn Swydd Gaerloyw y llynedd, wrth iddo sgorio 58 yn y batiad cyntaf.
Mae’n chwarae i Glwb Criced Trecelyn yn Uwch Gynghrair De Cymru, gan ymddangos am y tro cyntaf yn 13 oed.
“Dw i wrth fy modd o gael arwyddo i fy sir gartref,” meddai.
“Dw i wedi bod eisiau chwarae i Forgannwg erioed, a dw i’n gwireddu breuddwyd wrth gael y cyfle i fod yn chwaraewr proffesiynol gyda’r clwb.
“Dw i wir wedi mwynhau fy amser yn yr Academi, ac alla i ddim aros i gael dechrau.
“Bydd hi’n broses hir ond dw i’n edrych ymlaen at weithio’n galed a datblygu ochr yn ochr â chwaraewyr anhygoel.”
‘Sefyll allan yn yr Academi’
“Mae Alex wedi bod yn rhan o’n llwybrau ni er pan oedd e’n ddeg oed,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg a chyn-wicedwr y sir.
“Mae’n chwaraewr sydd wedi sefyll allan yn yr Academi, a’r ffordd orau iddo ddatblygu yw ei integreiddio fe yn rhan o’r staff sy’n broffesiynol.
“Mae e’n dalentog iawn, yn enwedig fel un mor ifanc, ond rydyn ni’n ymwybodol iawn ar hyn o bryd mai mater o ddatblygiad yw e.
“Mae’n fater o roi cyfuniad o griced ieuenctid ar gyfer ei oedran, criced yn yr Academi a chyfle yn yr ail dîm gyda’r chwaraewyr proffesiynol lle bo modd.
“Fydden ni ddim yn ei arwyddo fe ar gytundeb pe na baen ni’n credu bod ganddo fe’r gallu i chwarae criced tîm cyntaf yn y dyfodol weddol agos, ond dydy hynny ddim yn golygu y tymor hwn na’r tymor nesaf.
“Fyddwn ni ddim yn ei ddal e’n ôl oherwydd ei oedran – os yw e’n haeddu chwarae, fe fydd e, ond os oes angen cam ychwanegol arno fe yn ei ddatblygiad, fe fydd e’n cael y cyfle hwnnw.”