Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei beirniadu gan y diwydiant teithio, ynghyd â phobl sydd ar eu gwyliau, am fethu â darparu “eglurder” ar ôl i Bortiwgal a Gwlad Groeg gadw eu lleoedd ar restr eithrio rhag cwarantin yn Lloegr.
Mae Cymru wedi ychwanegu cyfyngiadau ar deithwyr sy’n dychwelyd o fannau penodol, ond dywedodd swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddydd Iau na fyddai unrhyw newid i’w rhestr hwy. Mae’r Alban hefyd wedi cyflwyno cyfyngiadau.
Bu dyfalu y byddai San Steffan yn ailgyflwyno’r gofyniad cwarantîn ar Bortiwgal oherwydd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion Covid-19 yno – arweiniodd hynny at lawer o bobl oedd ar eu gwyliau yn talu cannoedd o bunnoedd i hedfan adref yr wythnos hon.
Roedd Llywodraeth hefyd o dan bwysau i ailgyflwyno rheolau cwarantîn ar bobl sy’n cyrraedd o Wlad Groeg, ar ôl i Gymru gyflwyno cyfyngiadau.
Ond cyhoeddodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig, nos Iau, nad oedd unrhyw newidiadau i restr ei lywodraeth, er iddo ddweud na fyddai’n oedi cyn gweithredu pe bai angen.
Daeth y rheol honno i rym am 4am heddiw (4 Medi).
Roedd 23 o achosion Covid-19 am bob 100,000 o bobl ym Mhorrtiwgal yn y saith diwrnod hyd at ddydd Mercher, i fyny o 15.3 yr wythnos ynghynt.
Ond dywedodd Mr Shapps fod nifer o ffactorau eraill yn cael eu hystyried mewn perthynas â’r rhestr, gan gynnwys lefel y newid mewn achosion, graddau’r profi, a ph’un a yw achosion wedi’u “cyfyngu”.
Dywedodd Rory Boland, golygydd Which? Travel: “Roedd dyddiau o ddyfalu ynghylch y cyhoeddiad hwn – gan olygu bod llawer o bobl wedi rhuthro i dalu prisiau mawr am deithiau yn ôl i Loegr er mwyn osgoi gorfod mynd i gwarantin ar ôl iddynt ddychwelyd – dim ond i ddarganfod, nawr, nad oedd angen [iddynt wneud hynny].
“Mae’r Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn gwybod hyn ac eto nid yw’n cynnig unrhyw eglurder ynghylch sut y gwneir y penderfyniadau hyn, a hynny i gyd tra’n anwybyddu’r dystiolaeth gynyddol sy’n awgrymu nad yw’r system hon yn gweithio.
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am adael i deithio rhyngwladol ailddechrau tra’n blaenoriaethu iechyd y cyhoedd, mae angen ailasesu ei dull gweithredu.”