Yn ôl Ryan Giggs, roedd wedi bwriadu eilyddio capten Cymru, Gareth Bale, yn ystod hanner amser y gêm erbyn y Ffindir neithiwr er mwyn rhoi cyfle iddo baratoi ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Bwlgaria ddydd Sul.
Gyda gôl hwyr gan Kieffer Moore aeth Cymru yn ei blaen i guro’r Ffindir 1-0 yn Helsinki.
Ar ôl cael ei adael allan o garfan Real Madrid yn ddiweddar, dyma oedd gêm gyntaf Gareth Bale ers mis Chwefror.
“Mae Gareth yn iawn, does dim problem,” meddai Ryan Giggs.
“Y cynllun cyn y gêm oedd iddo chwarae ryw 45 munud neu ryw awr.
“Gyda dydd Sul mewn golwg penderfynais ei dynnu oddi ar y cae ar ôl 45 munud – roeddwn i’n meddwl bod 45 munud yn ddigon da, ac yn ddigon hir, i Gareth.”
Talentau ifanc newydd
Fe wnaeth Ryan Giggs ddewis rhoi cyfle i dalentau ifanc newydd, gyda Dylan Levitt yn dechrau yng nghanol y cae.
Ac yn yr ail hanner daeth Neco Willams a Ben Cabango i’r cae.
Ers cael ei benodi’n rheolwr yn 2018 mae Ryan Giggs wedi rhoi’r cyfle i 18 chwaraewr newydd.
“Fe gawson ni ychydig bach o lwc gyda’r Ffindir yn taro’r postyn”, meddai Ryan Giggs.
“Roedd hi’n gêm anodd, dim llawer o gyfleoedd, ac i ni ennill y gêm hon, gan ddechrau’r grŵp oddi cartref, rwy’n falch iawn.”
Ddydd Sul (Medi 6) fe fydd Cymru yn croesawu Bwlgaria i Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am 2pm.