Gyrrwr yn dweud iddi fynd yn “ddideimlad” yn dilyn damwain ger Aberystwyth

“Bydd gyda mi, mae’n debyg, am weddill fy oes”, meddai’r amddiffynnydd

Paul James

Paul James

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed i yrrwr sydd wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth cynghorydd o Geredigion drwy yrru yn beryglus iddi deimlo’n “ddideimlad” pan sylweddolodd beth oedd wedi digwydd.

Bu farw Paul James, 61, a oedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ar yr A487 ger Bow Street fis Ebrill y llynedd.

Mae Lowri Powell, 44, o Benrhyncoch a Christopher Jones, 40, o Bont ar Fynach, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

“Es i’n ddideimlad,” meddai Lowri Powell.

“Bydd gyda mi, mae’n debyg, am weddill fy oes.

“Cefais fy nallu gan olau’r haul a oedd yn llachar iawn a thynnu fy fisor haul i lawr.”

Effaith golau’r haul

Mae’r ddau yrrwr yn dweud bod golau’r haul wedi effeithio ar yr hyn roedden nhw’n ei weld.

Mae Llys y Goron Abertawe eisoes wedi clywed gan ddau arbenigwr y gallai golau’r haul fod wedi effeithio ar allu gyrwyr i weld, ond mae un arbenigwr o’r farn byddai’r gyrwyr dal wedi gallu gweld Paul James oherwydd ei siaced lachar.

Clywodd y llys gyfweliad heddlu gan y gyrrwr arall, Christopher Jones.

Dywedodd Christopher Jones wrth yr heddlu ei fod yn gyrru rhwng 50 a 53 milltir yr awr pan gafodd ei ddallu gan olau’r haul.

Roedd yn gwisgo sbectol haul, ac roedd ganddo ei fisor haul i lawr hefyd.

“Dechreuais sgrechian ar fy ngwraig i ffonio ambiwlans,” meddai.

“Rydw i wedi ail-fyw’r digwyddiad drosodd a throsodd yn fy mhen filiynau o weithiau”.

Mae disgwyl iddo roi tystiolaeth ddydd Gwener (Medi 4).

Mae’r achos llys yn parhau.

← Stori flaenorol

Ryan Giggs wedi bwriadu eilyddio Gareth Bale yn y fuddugoliaeth yn erbyn y Ffindir

“Gyda dydd Sul mewn golwg penderfynais ei dynnu oddi ar y cae ar ôl 45 munud”, meddai Ryan Giggs ar ol y fuddugoliaeth 1-0

Stori nesaf →

Awyren

Teithwyr i Gymru o Bortiwgal ac ynysoedd Groeg i orfod hunanynysu o heddiw ymlaen

Rhaid i unrhyw un sy’n cyrraedd Cymru o’r llefydd dan sylw hunanynysu am 14 diwrnod.

Hefyd →

Ysgol Dyffryn Aman: Cyhuddo merch 13 oed o geisio llofruddio tri o bobol

Cafodd y ferch ei harestio ar dir yr ysgol yn dilyn y digwyddiad