Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed y gallai golau’r haul fod wedi effeithio ar yr hyn roedd dau yrrwr, sydd wedi’u cyhuddo o achosi marwolaeth beiciwr drwy yrru’n beryglus, yn ei weld.

Bu farw Paul James, 61, a oedd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ar yr A487 ger Bow Street fis Ebrill y llynedd.

Mae Lowri Powell, 44, o Benrhyncoch a Christopher Jones, 40, o Bont ar Fynach, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Dywedodd y ddau wrth yr heddlu nad oedden nhw wedi gweld Paul James oherwydd yr haul yn eu llygaid.

Effaith golau’r haul

Yn ystod yr achos llys dywedodd yr Athro Graham Edgar, arbenigwr mewn seicoleg wybyddol ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd, y gallai golau’r haul effeithio ar allu gyrrwr i ymateb i beryglon.

Dywedodd yr Athro y gallai golau’r haul hefyd effeithio ar allu gyrrwr i wahaniaethu rhwng glaswellt a chreigiau ar ochr y ffordd.

Fodd bynnag, dywedodd y byddai’r modurwyr wedi gweld Paul James oherwydd ei siaced lachar.

Ond dywedodd yr ymchwilydd gwrthdrawiadau, Victoria Eyers y gallai golau’r haul wedi gwneud hi’n anodd i yrwyr weld Paul James, hyd yn oed yn ei siaced lachar.

Yn ystod ei hymchwiliad, cyfrifodd Victori Eyers na fyddai Paul James ond wedi dod yn weladwy i Lowri Powell tan yr oedd hi 13 metr i ffwrdd.

“Er mwyn gallu ymateb a brecio i stop, byddai angen iddi [Lowri Powell] fod yn teithio ar gyflymder o 15mya neu lai,” meddai.

Er mwyn ei weld a gwyro i’w osgoi, amcangyfrifodd y byddai angen i Lowri Powell fod wedi bod yn gyrru ar oddeutu 9mya, a’i bod yn teithio ar gyflymder o 52mya.

Ychwanegodd yr ymchwilydd gwrthdrawiadau nad oedd hi wedi gallu ymweld â’r lleoliad yng Ngheredigion oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Cefndir

Clywodd y llys fod Paul James, Lowri Powell, a Christopher Jones i gyd yn teithio tuag at Aberystwyth pan darodd car Lowri Powell y beiciwr wrth iddi ei basio.

Achosodd hyn i’r dyn 61 oed ddisgyn i’r ffordd cyn cael ei daro ychydig eiliadau’n ddiweddarach gan Christopher Jones.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw Paul James yn y fan a’r lle.

Mae’r achos llys yn parhau.