Mae’r heddlu ym Manceinion Fwyaf wedi cael eu galw ymweld â dros 260 o bobol sydd heb gadw at amodau sy’n ymwneud â cwarantîn coronafeirws.

Gal swyddogionl Llu’r Ffiniau gysylltu â theithwyr rhyngwladol i sicrhau eu bod yn cadw at y rheolau cwarantîn, ac yn hunan-ynysu am 14 diwrnod wedi iddynt ddychwelyd i wledydd Prydain, pan fo hynny yn ofynnol.

Os nad oes ymateb, bydd manylion yr unigolion yn cael eu pasio ymlaen i’r heddlu.

Dywedodd Heddlu Manceinion Fwyaf eu bod wedi derbyn 263 cais gan Lu’r Ffiniau ers Gorffennaf 22, a’u bod wedi rhoi hysbysiad cosb benodedig am dorri rheolau hunan-ynysu mewn dau achos.

“Hynod bwysig fod pobobl yn hunan-ynysu am 14 diwrnod.”

Yn ôl yr Uwcharolygydd Andrew Sidebotham: “Mae’n hynod bwysig fod pobol yn hunan-ynysu am 14 diwrnod cyfan ar ôl dychwelyd i Brydain, gan fod symptomau Covid-19 yn gallu cymryd hyd at bythefnos i ymddangos.

“Yn ystod yr amser hwn, gallwch fod yn pasio’r feirws ymlaen i eraill, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau eich hunain.

“Ymatebwch pan fydd Llu’r Ffiniau’n cysylltu â chi, oherwydd unwaith mae’r achos yn cael ei basio ymlaen i’r heddlu mae nifer o adnoddau yn cael eu llyncu wrth ymweld â’r cyfeiriad ac wrth ddod i gyswllt â’r unigolyn,” meddai’r Uwcharolygydd.

“Yn ogystal, mae’r swyddogion yn peryglu eu hiechyd drwy ymweld â rhywun a all fod yn cario’r feirws – gallwn osgoi’r perygl yma pe bai pawb yn hunan-ynysu fel sydd yn ofynnol.”