Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadau cwarantin ar deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o Bortiwgal, Gibraltar, Polynesia Ffrengig, a chwech o ynysoedd Gwlad Groeg, o heddiw ymlaen.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod “cyngor clir” bod teithio o’r gwledydd a’r tiriogaethau hynny yn “risg iechyd cyhoeddus”.

Bydd yr Azores a Madeira, tiriogaethau sy’n perthyn i Bortiwgal, yn parhau i fod wedi’u heithrio rhag y cyfyngiadau cwarantîn, ond fe fydd y cyfyngiadau yn berthnasol i’r ynysoedd Groegaidd hyn: Mykonos, Zakynthos, Lesvos, Paros, Antiparos a Crete.

Rhaid i unrhyw un sy’n cyrraedd Cymru o’r llefydd hynny hunanynysu am 14 diwrnod.

Ddydd Mawrth, cynghorodd Llywodraeth Cymru deithwyr a ddychwelodd o Zakynthos i hunanynysu am bythefnos, a chynigiwyd profion Covid-19 iddynt o fewn 48 awr i’w dychweliad, yn ogystal ag ail brawf i’w gynnal wyth diwrnod yn ddiweddarach.

Awyren o Zakynthos

Dywedodd Mr Gething fod dros 20 o bobl ar un awyren o Zakynthos nos Fawrth eisoes wedi profi’n bositif am y coronafeirws – dros 10% o’r bobl oedd ar yr awyren.

Dywedodd Mr Gething wrth BBC Radio Wales ei fod yn disgwyl i ragor o bobl o’r awyren honno gael canlyniadau cadarnhaol pan gânt eu hailbrofi yr wythnos nesaf.

“Ar yr awyren ddiwethaf ddydd Mawrth, rydym bellach wedi gweld mwy nag 20 o bobl ar yr awyren honno sydd â’r coronafeirws, mae hynny’n fwy na 10% o’r [bobl oedd ar yr] awyren honno,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

“Rydym yn disgwyl y bydd mwy o bobl yn cael eu profi’n bositif pan fyddwn yn ailadrodd y profion.

“Felly, nid yw [y penderfyniad hwn] yn cael ei gymryd ar fympwy.

“Mae wedi’i gymryd oherwydd bod cyngor clir iawn am risg i iechyd y cyhoedd os nad ydym yn gweithredu… a dylai pob un ohonom gofio bod y don gyntaf o’r coronafeirws wedi cael ei sbarduno gan ei fewnforio wrth deithio o Ewrop.

“Rydym yn dechrau gweld hynny’n dod o rannau o Wlad Groeg yn arbennig, a dyna pam rydym yn cymryd y camau hyn heddiw.”

“Cyngor clir”

Mewn datganiad a gyhoeddwyd drwy Lywodraeth Cymru, dywedodd Mr Gething ei fod wedi ystyried “cyngor clir” gan y Cyd-ganolfan Bioddiogelwch (JBC).

Mae adroddiad gan y JBC yn nodi bod teithio o’r gwledydd a’r tiriogaethau [dan sylw] bellach yn “risg iechyd cyhoeddus”, meddai Mr Gething.

“Mae’r camau hyn yn cael eu cymryd o ganlyniad i nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn cael eu mewnforio i Gymru gan dwristiaid sy’n dychwelyd o ynysoedd Groeg, yn arbennig,” meddai Mr Gething.

Mae Portiwgal a Gwlad Groeg wedi cadw eu lleoedd ar restr eithrio rhag cwarantîn Lloegr. Cyhoeddodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, ddydd Iau nad oedd unrhyw newidiadau i restr ei lywodraeth ar gyfer Lloegr.