Yn dilyn adroddiadau fod parti mawr wedi ei drefnu mewn chwarel yn Llanelli heno (4 Medi), mae’r heddlu yn annog rhieni i gadw llygad ar eu plant.
Nid yw’r heddlu yn dweud pa chwarel sydd dan sylw, ond maen nhw am fod yn patrolio’r ardal er mwyn atal plant rhag dod ynghyd.
Nid yw rheoliadau’r coronafeirws yn caniatáu i bobol gyfarfod mewn grwpiau mawr, ac mae swyddogion yr heddlu yn bryderus am beryglon yr yfed dan oed sydd yn digwydd mewn partïon fel hyn.
Mae’r heddlu yn neilltuo adnoddau i’r ardal er mwyn gallu symud grwpiau mawr o bobol oddi yno, ac er mwyn ceisio atal y parti yn y lle cyntaf.
Dywedodd y Sarjant Ben Ashton, o dîm plismona’r gymdogaeth yn Llanelli, fod “chwareli ac adfeilion yn hynod o beryglus, a ddim yn llefydd saff i blant.
“Hoffwn atgoffa rhieni o’u cyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o symudiadau a gweithgareddau eu plant.
“Cofiwch ei bod yn drosedd prynu alcohol i unrhyw un o dan 18 oed, a byddwn yn ymdrin yn briodol ag unrhyw un sydd yn cael ei ddal yn gwneud hynny,” ychwanegodd.