Mae Carwyn Jones, cyn-Brif Weinidog Cymru, wedi’i benodi’n Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd yn dechrau’r swydd yn rhan-amser hyd nes y bydd yn camu o’i sedd yn y Cynulliad yn 2021, lle mae’n cynrychioli Pen-y-bont.
Rhan o’i waith fydd cynnal darlithoedd a chyfrannu at y drafodaeth ehangach ar y gyfraith.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Brynteg, aeth yn ei flaen i astudio’r Gyfraith yn Aberystwyth, gan ddod yn Gymrawd yn yr adran fis Gorffennaf y llynedd.
Ar ôl cymhwyso yn Llundain i fod yn fargyfreithiwr, bu’n gweithio yn Abertawe am ddegawd ac yn tiwtora ym Mhrifysgol Caerdydd ar yr un pryd.
Cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad adeg agor y sefydliad yn 1999, a’i benodi’n Weinidog yr Amgylchedd yn 2003.
Bu hefyd yn Weinidog Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, yn Gwnselydd Cyffredinol ac yn Arweinydd y Tŷ cyn dod yn Brif Weinidog yn 2009.
‘Blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus’
“Rwy wrth fy modd fod Carwyn Jones yn ymuno â ni yn Aberystwyth,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Fel Cyn Brif Weinidog, bargyfreithiwr ac un sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus daw â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth gyfreithiol, gyfansoddiadol a gwleidyddol a fydd o fudd mawr i’n myfyrwyr a chydweithwyr ar draws y Brifysgol.”
Dywed Carwyn Jones ei bod yn “anrhydedd fawr” cael ei benodi i’r swydd.
“Mae gen i atgofion gwych o Aber fel myfyriwr ac mae’r Brifysgol yn agos iawn at fy nghalon.
“Mae hwn yn gyfnod o newid mawr iawn yn hanes cyfraith gyfansoddiadol Cymraeg a Phrydeinig ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda fy nghydweithwyr newydd i sicrhau bod Aber ar flaen y gâd wrth siapio ein dyfodol cyfansoddiadol.
‘Cyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr’
“Ac yntau’r cyfreithiwr cyntaf i gael ei benodi’n Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones oedd un o’r cyntaf o wleidyddion blaenllaw Cymru i ddeall yn llawn ardrefniant cyfansoddiadol 2006, ac i fynd ati’n hyderus i’w gryfhau a’i wneud yn fwy eglur,” meddai’r Athro Emyr Lewis, pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.
“Goruchwyliodd ddatblygiadau cyfansoddiadol sylweddol, gan gynnwys refferendwm o blaid pwerau deddfwriaethol mwy eglur ac effeithiol i’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â gwrthsefyll heriau gan Lywodraeth y DU i ddeddfau Cymreig yn y Goruchaf Lys.
“Yn ystod ei gyfnod fel Prifweinidog, arweiniodd y ddadl ar ddatganoli cyfiawnder, cyfraniad a brofodd yn drobwynt yn y drafodaeth am sefydlu system gyfiawnder annibynnol i Gymru.
“Fe oedd un o’r gwleidyddion cyntaf yn y DU i alw am gonfensiwn cyfansoddiadol i ailwampio cyfansoddiad y DU fel ei fod yn addas ar ôl datganoli, thema sy’n parhau yn ei waith gyda Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad ar Fil y Ddeddf Uno.
“Fe fydd ei benodiad yn cyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr, sydd eisoes yn ardderchog, ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i’r cyfansoddiad Prydeinig mewn cyfnod sydd â photensial o newid mawr.”