Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws rhatach.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rheoli’r rhaglen ail-gyhoeddi er mwyn darparu Cardiau Teithio Rhatach newydd i bobl anabl a dros 60 oed.
Dyddiad dod i ben gwreiddiol y cardiau oedd Rhagfyr 2019, ond fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi cyfnod gras ym mis Rhagfyr ac mae’n awr yn annog pobl i wneud cais am eu cerdyn newydd cyn y dyddiad cau ar y 29 Chwefror.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig ac yn un sy’n dangos graddfa’r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yma,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.