Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno cynllun achub gyda’r cwmni awyrenau Flybe.
Cytunodd gweinidogion i gydweithio â Flybe i greu cynllun ad-dalu ar gyfer dyled treth sydd yn fwy na £100m.
Tra mae perchnogion y cwmni wedi cytuno i fuddsoddi mwy o arian i mewn i’r cwmni.
Dywed yr Ysgrifennydd Busnes Andrea Leadsom y byddai cytundeb yn cadw’r cwmni i fynd.
Mae wyth miliwn o bobol yn teithio gyda Flybe bob blwyddyn.