Y cwmni wedi cythruddo cwsmer ar wefan Twitte
Mae cwmni cyfrifwyr sydd wedi’i leoli yn ninas Dulyn wedi cythruddo cwsmer drwy honni nad oes “neb yn siarad Gwyddeleg”.
Fe ddaeth y sylw ar dudalen Twitter cwmni Bullet, @bullethq, sy’n dweud eu bod nhw’n cynnig gwasanaeth cyfrifo, anfonebu a chyflogres i gwmnïau digidol.
Fe ddaeth y sylw wrth i’r cwmni ymateb i ymholiad gan Eoghan Mac Giolla Bhríde, oedd yn awgrymu y dylen nhw gynnig opsiwn er mwyn creu dogfennau yn yr iaith Wyddeleg.
“A fyddai gobaith o’r fath gyfleuster?” mae’n gofyn wedyn, gan ddweud y byddai “llawer o gwmnïau Gwyddelig yn ddiolchgar”.
Ateb y cwmni
Wrth ateb yr ymholiad, dywed neges o gyfrif swyddogol y cwmni, “Shwmai Eoghan, does neb yn ei siarad felly fyddai hi ddim yn gwneud synnwyr ond diolch am yr adborth. Gobeithio bod Bullet yn gweithio’n iawn i chi.”
O dderbyn yr ateb, dywed yr ymholwr na fydd e’n defnyddio’r gwasanaeth eto.
“Mae’n ddrwg gen i eich bod chi’n teimlo felly,” meddai.
“Heb opsiwn iaith, fydda i ddim yn defnyddio’ch meddalwedd gan fy mod i, am un peth, yn siarad Gwyddeleg ac mae’r cwmnïau dw i’n ymdrin â nhw yn ei siarad hefyd.
“Dw i bellach wedi dod o hyd i gwmni Gwyddelig sydd, yn garedig iawn, wedi cynnig opsiwn iaith Wyddeleg ac rydym yn cydweithio erbyn hyn ar ddatrysiad.”
Mae’r cwmni’n cael ei gyhuddo o “ddieithrio cenedl gyfan mewn un trydariad”, tra bod eraill yn tynnu sylw at gyfrif Twitter y pennaeth Peter Connor, sy’n ei alw ei hun yn “blentyn Iwerddon” ac yn dweud mai “cwsmeriaid yn unig sy’n bwysig mewn busnes”.