Mae’r heddlu wedi bod yn ymateb i ffrae yn ystod gwrandawiad Cyngor Caerdydd i ymddygiad y cynghorydd ac Aelod Cynulliad Neil McEvoy.
Roedd e’n destun gwrandawiad yn dilyn honiadau ei fod e wedi ymyrryd yn achos teulu oedd yn credu i blentyn ddioddef ymosodiad mewn cartref gofal.
Roedd wedi’i gyhuddo o fwlio staff y cartref, ac mae’r Cyngor yn dweud iddo dorri eu cod ymddygiad ar ôl cael mynediad i gyfarfod yn trafod yr achos.
Cafodd gwrandawiad ei gynnal yn Neuadd y Ddinas heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 14).
Wrth i ganlyniad y gwrandawiad gael ei gyhoeddi, cododd cefnogwyr Neil McEvoy ar eu traed a gweiddi.
Mewn neges ar ei dudalen Twitter, dywed Neil McEvoy iddo fod yn destun “stitch-up”.
“Mae honiadau fy mod i wedi torri’r cod drwy siarad ar ran plentyn oedd yn honni camdriniaeth mewn cartref gofal preifat,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r system yng Nghymru newid, a bydda’ i’n apelio.
“Mae pobol sy’n cael eu camdrin bob amser yn cael eu siomi.”
Mewn neges cyn y gwrandawiad, fe gyhuddodd e’r ombwdsmon o “dawelu” unrhyw un sy’n ceisio lleisio barn.