Mae Caroline Jones wedi gadael grŵp Plaid Brexit yn y Senedd, gan ddweud bod y blaid bellach wedi cyflawni ei nod o adael yr Undeb Ewropeaidd ond hefyd ei bod hi’n anghytuno â’u safiad ar ddatganoli i Gymru.
Bydd yr Aelod dros Dde Cymru’n parhau’n Aelod Annibynnol o’r Senedd, ond fydd hi ddim bellach yn cefnogi’r blaid.
Yn ôl Caroline Jones, mae gan y blaid negatifrwydd parhaus tuag at ddatganoli sy’n anghyson â’i dyhead i wella gwleidyddiaeth ddatganoledig Cymru.
Mae hi’n galw am weledigaeth fwy positif ar gyfer rhanbarth De Cymru.
Datganiad
“Fel Brexitïwr, doedd dim rheswm am beidio â rhoi benthyg fy nghefnogaeth i Grŵp Plaid Brexit ond roedd hyn gan ddeall fod Plaid Brexit yn rhannu fy marn y dylid diwygio’r Llywodraeth ddatganoledig fel ei bod yn gweithio’n well i’r bobol dw i’n eu cynrychioli yng Ngorllewin De Cymru,” meddai Caroline Jones mewn datganiad.
“Nawr fod Brexit wedi’i gyflawni, ac mae Plaid Brexit wedi nodi eu bod nhw’n wrth-ddatganoli ac eisiau gweld diddymu’r Senedd, dw i wedi penderfynu gadael Grŵp Plaid Brexit yn y Senedd ac eistedd fel Aelod Annibynnol heb fod wedi lliniaru am weddill y tymor seneddol hwn tan etholiad nesaf Senedd Cymru.
“Mae eu safiad presennol o fod yn Blaid Wrth-Ddatganoli’n groes i’m hegwyddorion.
“Fy marn i yw nad yw San Steffan yn cynnig yr holl atebion a thra bod gan ddatganoli yng Nghymru ffordd bell i fynd cyn ei bod wir yn cynrychioli pobol Cymru, mae’n rhywbeth yr oedd y mwyafrif o bobol yn ein gwlad wedi pleidleisio drosto sawl gwaith.
“Dw i felly yn anrhydeddu’r penderfyniad democrataidd hwnnw ac eisiau gwneud i ddatganoli weithio er lles pobol Cymru yn hytrach na’i danseilio.”