Mae deiseb sydd yn galw am warchod adeiladau Coleg Harlech a’u “hadnewyddu i’w hen ogoniant” wedi ei llofnodi gan bron i 1,000 o bobol.
Daeth dysgu i ben ar y safle yn 2017 ac mae disgwyl i adeiladau’r coleg gael eu gwerthu mewn ocsiwn yr wythnos nesaf.
Y llynedd, cafodd y safle ei werthu gan Addysg Oedolion Cymru i’r dyn busnes Leslie Banks Irvine.
Yn gynharach eleni, eglurodd y perchennog newydd wrth golwg360 ei fod wedi dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer y safle sydd hefyd yn cynnwys adeilad rhestredig Theatr Ardudwy.
Ond mae’r adeiladau’n dal heb eu gwerthu ac maen nhw bellach ar werth mewn ocsiwn ddydd Iau nesaf (Awst 27).
Y pris gofynnol ar gyfer yr adeiladau sydd yn cael eu gwerthu mewn tri arwerthiant gwahanol, at ei gilydd, yw £495,000:
- £230,000 – Wern Fawr a Theatr Ardudwy
- £140,000 – Adeilad yr hen ganolfan
- £125,000 – Adeilad yr hen neuadd chwaraeon
‘Trysor cenedlaethol Cymreig’
Eglurodd Siân Ifan, sydd hefyd yn gyn-fyfyrwraig yng Ngholeg Harlech, wrth golwg360 iddi greu’r ddeiseb ar ôl ymweld â’r dref yn ddiweddar.
“Mae Coleg Harlech yn drysor cenedlaethol Cymreig sydd yn y broses o gael ei ddatgymalu a’i werthu fesul adeilad i’r cynigydd uchaf er mwyn ei ddatblygu,” meddai.
“Roedd y coleg yn le braf i ni fel myfyrwyr, mewn safle bendigedig uwchben y môr a gyferbyn a’r castell, ond mae’r adeiladau wedi cael eu gadael i ddirywio.”
Un o bryderon mwyaf Siân Ifan yw y bydd y safle yn cael ei ddymchwel i greu rhwydwaith o dai haf.
“Mae Gwesty Dewi Sant gerllaw eisoes wedi ei ddymchwel, ac mae ’na gynlluniau i ddatblygu’r safle ar gyfer tai moethus,” meddai.
“Mae gennym broblem tai haf yma yng Nghymru ers dros ddeugain mlynedd ac mae pryder bydd tai haf yn cael eu hadeiladu ar safle’r coleg.
“Os na wnawn ni safiad rŵan fydd hi rhy hwyr.”
Ailagor y coleg?
Gobaith Siân Ifan yw y bydd y ddeiseb yn arwain at ailagor Coleg Harlech er lles pobol ifanc yng Nghymru.
“Coleg ar gyfer y dosbarth gweithiol oedd Coleg Harlech – pobol fel fi oedd heb gael y cyfle,” meddai.
“Roedd y coleg yn cynnig y cyfle i ni ailgydio mewn addysg a mynd ymlaen i swyddi neu addysg bellach.
“Mae’n rhaid i ni achub y llefydd yma er mwyn hyfforddi pobol sydd yn ddi-waith yng Nghymru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”
‘Angen Coleg Harlech arnom yn fwy nag erioed’
Ychwanegodd Siân Ifan fod “angen sefydliadau fel Coleg Harlech arnom yn fwy nag erioed”.
“Gan fod economi Cymru yn mynd i fod yn wael ar ôl y pandemig, mae’n gwneud synnwyr i adnewyddu Coleg Harlech i’w hen ogoniant,” meddai.
“Gall y coleg hyfforddi ein pobol ddi-waith i ddatblygu’r sgiliau ymarferol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i ailadeiladu strwythur ac economi ein cenedl er budd a ffyniant cyfartal pawb.”
Bydd rhaid i’r ddeiseb gasglu dros 5,000 o lofnodion er mwyn i’r Pwyllgor Deisebau ystyried gofyn am ddadl ar y mater yn Siambr y Senedd.
Cefndir Coleg Harlech
Cafodd Coleg Harlech ei sefydlu yn goleg i fyfyrwyr hŷn yn 1927 ac erbyn yr 1960au, roedd 70 o bobol yn astudio yno.
Roedd gan y safle gysylltiadau agos â Sefydliad Addysg y Gweithwyr (WEA), a thrwy uno â sawl corff o’r 2000au ymlaen, daeth dan reolaeth Addysg Oedolion Cymru.
Daeth dysgu i ben ar y safle yn 2017 cyn cael ei werthu drwy dendr ffurfiol yn 2019.
Dywedodd Kathryn Robson, prif weithredwr Addysg Oedolion Cymru, yn 2019 fod y gwerthiant yn “nodi pennod newydd yn hanes y safle”, ond mae’r adeiladau wedi sefyll yn wag ers hynny.