Mae perchennog hen safle Coleg Harlech wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn ceisio gwerthu’r lle o fewn yr wythnosau nesaf.
Yn wreiddiol roedd Les Irvine wedi bwriadu troi rhai o adeiladau’r hen goleg yn westy, ond mae wedi methu â gwneud hynny.
Mae yn dweud ei fod wedi dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer safle sydd hefyd yn cynnwys Theatr Ardudwy.
Y coleg hirhoedlog
Cafodd Coleg Harlech ei sefydlu yn goleg i fyfyrwyr hŷn yn 1927, ac erbyn yr 1960au roedd dwsinau yn astudio yno.
Roedd gan y safle gysylltiadau agos â Sefydliad Addysg y Gweithwyr (WEA), a thrwy uno a sawl corff o’r 2000au ymlaen daeth dan reolaeth Addysg Oedolion Cymru.
Ym mis Chwefror 2017 daeth cyhoeddiad y byddai’r safle yn rhoi’r gorau i ddysgu oedolion, a’r llynedd cafodd ei werthu i’r dyn busnes Les Irvine.
Ar safle’r coleg mae ardal Wern Fawr, campfa, canolfan a Theatr Ardudwy – adeilad rhestredig Gradd II* gyda 266 o seddi ac sydd mewn cyflwr gwael.
Prynu a gwerthu
Cafodd y safle ei brynu’n swyddogol gan y dyn busnes lleol, Les Irvine, ar Fedi 20 y llynedd – yn ôl y dyn ei hun – ond dyw’r hen goleg ddim wedi ei chofrestru yn ei enw yntau eto.
Mae’r Gofrestrfa Dir yn cymryd hyd at 105 o ddiwrnodau gwaith i wneud hynny meddai Les Irvine wrth golwg360, ac mae’n disgwyl dod yn berchennog swyddogol o fewn y pythefnos nesaf.
Does ganddo ddim awydd cadw’i afael ar Goleg Harlech, ac unwaith y bydd yn berchennog swyddogol mi fydd yn medru ei werthu.
“Dw i wedi dod o hyd i brynwr sydd â diddordeb,” meddai Les Irvine wrth golwg360.
“Ac mi fydd [y gwerthiant] yn mynd yn ei flaen unwaith dw i’n gallu’r rhoi’r cytundeb iddo. Ond ar hyn o bryd dw i methu [ei werthu].”
Dyfodol y safle
Mae Les Irvine yn dweud ei fod wedi ceisio trwsio’r safle – gan gynnwys twll yn nho’r Theatr – ond mae’n cydnabod nad yw wedi gwireddu ei weledigaeth o droi Wern Fawr yn westy.
Mi fydd yn gwerthu’r cwbl lot, ac nid yw am ddatgelu pwy yw’r prynwr sydd wedi dangos diddordeb, nac ychwaith beth yw’r cynlluniau ar gyfer yr hen goleg.