Mae prif was sifil yr Alban wedi dechrau rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau Senedd yr Alban sy’n edrych ar yr ymateb i’r honiadau o aflonyddu yn erbyn cyn-Brif Weinidog Alex Salmond.

Yr Ysgrifennydd Parhaol Leslie Evans yw’r tyst cyntaf gerbron y pwyllgor sy’n ymdrin â chwynion ynghylch aflonyddu gan Lywodraeth yr Alban, a gafodd ei sefydlu y llynedd.

Dywedodd ei bod yn rhoi tystiolaeth “ar ran Gweinidogion ac nid mewn rhinwedd bersonol”, a’i bod wedi’i chomisiynu i adolygu gweithdrefnau Llywodraeth yr Alban ynghylch aflonyddu rhywiol.

“Ymateb Llywodraeth yr Alban i’r adolygiad hwnnw, yn unol â gwaith ehangach, oedd herio’r diwylliant o ‘ddweud dim’,” meddai.

“Rhoi hyder i staff – pob aelod o staff o unrhyw ran o’r sefydliad – y gallai pryderon a chwynion gael eu dwyn ymlaen ac y bydden nhw’n derbyn sylw.”

Canfyddiadau’r adolygiad

Dywedodd fod yr adolygiad wedi canfod y dylid datblygu gweithdrefn i ymchwilio i gwynion am aflonyddu ar gyfer cyn-Weinidogion a Gweinidogion presennol.

“Mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i fod ar y blaen i lawer o sefydliadau eraill wrth lunio a gweithredu gweithdrefn o’r fath – yn agored a thryloyw, ac yn enwedig un i fynd i’r afael â honiadau hanesyddol o gamymddwyn rhywiol. Nid oeddem yn osgoi ein cyfrifoldeb,” meddai wedyn.

Wrth siarad â phwyllgor Senedd yr Alban, dywedodd Leslie Evans “pan godwyd cwynion, y byddai wedi bod yn afresymol, ac yn fethiant yn ein dyletswydd gofal, i beidio ag ymchwilio i’r cwynion hynny”.

“Fodd bynnag, derbyniwyd mewn adolygiad barnwrol y dylai un rhan o’n gweithdrefn fod wedi’i chymhwyso’n wahanol,” meddai.

“Ymddiheuraf yn ddiamod i bawb a fu’n ymwneud â’r methiant gweithdrefnol hwn.

‘Dim diwylliant o ofn’

Gyda Alex Salmond wedi’i gael yn ddieuog o’r troseddau rhywiol honedig gan reithgor Uchel Lys ym mis Mawrth eleni, dechreuodd y trafodaethau gyda Linda Fabiani, Cynullydd Pwyllgor yr SNP, yn pwysleisio “na fydd y Pwyllgor yn ailedrych ar fater gwahanol yr achosion troseddol yn erbyn Mr Salmond, nac yn ail-ymchwilio nac yn ystyried sylwedd y cwynion a wnaed yn wreiddiol i Lywodraeth yr Alban”.

Dywedodd Leslie Evans yn ddiweddarach wrth Murdo Fraser nad oedd yn cydnabod honiadau gan undeb FDA am “ddiwylliant o ofn” a gafodd ei brofi gan rai gweision sifil.

Dywedodd hefyd na allai wneud sylw ar honiadau bod staff benywaidd yn cael eu “cynghori i beidio â bod ar eu pen eu hunain” gyda’r cyn-Brif Weinidog.

Ychwanegodd Leslie Evans ei bod yn ymwybodol o’r pryderon a gafodd eu crybwyll yn y gorffennol ynghylch rhai mathau o ymddygiad, ond na allai “ddweud dim heblaw hynny”.

“Mae hynny’n seiliedig ar sgyrsiau cyfrinachol a byddai’n well gen i beidio â dweud mwy na hynny,” meddai.

Wrth ymateb i gyflwyniad yr FDA, dywedodd Leslie Evans nad yw hi’n “cydnabod y term ’diwylliant o ofn” ac “nad yw’n un y byddwn i’n ei ddefnyddio”.