Mae Asda wedi adrodd am naid o 3.8% mewn gwerthiant cyfatebol ar gyfer y tri mis hyd at Fehefin 30, ar ôl i bandemig y coronafeirws roi hwb i fwydydd ar-lein.

Dywed y cwmni archfarchnadoedd fod gwerthiant ar-lein wedi “dyblu” yn yr ail chwarter wedi iddyn nhw gynyddu eu capasiti cyflenwi o 65% yn ystod y cyfnod.

Roedd gwerthiant drwy glicio-a-chasglu hefyd wedi codi i bedair gwaith yn fwy na’r arfer ar gyfer y chwarter oherwydd “y blas cynyddol a pharhaus am siopa bwyd ar-lein”.

Dywed Roger Burnley, Prif Swyddog Gweithredol a Llywydd Asda, fod y pandemig wedi creu newid strwythurol mewn ymddygiad cwsmeriaid tuag at siopa bwyd.

“Rydym wedi cyflymu’r ehangu ar gapasiti ar-lein i gyrraedd lefelau y rhagwelwyd y byddem yn cyrraedd mewn wyth mlynedd o fewn ychydig wythnosau a byddwn yn parhau i ehangu’r cynnig hwn,” meddai.

“Byddwn hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod ein profiad yn y siop yn darparu’r hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau o daith siopa – gwerth mawr, ystod berthnasol a rhwyddineb.

“Wrth i fywyd o dan Covid-19 barhau, mae pryderon cwsmeriaid yn newid o ganlyniadau iechyd y pandemig i’w effeithiau ariannol – ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu eu hiechyd a’u cyllidebau.”