Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yna wersi i’w dysgu o’r ffordd y cafodd graddau Safon Uwch a chymwysterau eraill eu cyfrifo’r wythnos ddiwethaf er mwyn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, dan ofal y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Ymddiheurodd e ar ran y Llywodraeth am achosi “ansicrwydd a phryder” i ddisgyblion yng Nghymru.

“Bydd angen i ni ddysgu o hyn,” meddai.

“Efallai na fydd tymor arholiadau arferol y flwyddyn nesaf – mae’r hyn rydym wedi ei ddysgu eleni, felly, yn bwysig iawn.

“Mae’n rhaid i ni gael pethau yn eu lle yn barod ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Mewn digwyddiadau unigryw fel hyn, sydd yn digwydd unwaith mewn canrif, bydd amherffeithrwydd yn codi yn ein penderfyniadau.”

Daw ei sylwadau wedi i Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ddweud yng nghynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru’r wythnos ddiwethaf ei bod hi’n hyderus na fyddai helynt canlyniadau arholiadau yng Nghymru.

Ar ôl beirniadaeth am y ffordd y cafodd graddau Safon Uwch a chymwysterau eraill eu cyfrifo’r wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ddoe (Awst 17) y byddai graddau disgyblion yn cael eu gosod ar sail asesiad athrawon.

‘Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu’

Pwysleisia Vaughan Gething fod gan bawb rôl i’w chwarae o hyd wrth atal ymlediad y coronafeirws.

“Does neb eisiau cyfnod clo arall. Ond dydy’r coronafeirws ddim wedi diflannu,” meddai.

“Felly os ydym am barhau i fwynhau’r lefel yma o ryddid, rhaid inni atal y feirws rhag lledaenu.”

Er hyn, eglurodd y Gweinidog Iechyd y gallai pethau newid yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi cynlluniau am sut i fynd i’r afael â’r coronafeirws yn ystod misoedd y gaeaf yn fuan.

“Mae’r wyddoniaeth yn dangos bod y feirws yn lledaenu’n gyflymach mewn misoedd oerach a thywyllach, a dyna pam fod rhaid i ni fod yn barod,” meddai.

Llai o bobol mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd fod 70 claf yn derbyn gofal am yr haint mewn ysbytai yng Nghymru ar hyn o bryd, a bod dau berson mewn cyflwr difrifol o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru – y lleiaf ers dechrau’r pandemig.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd fod timau Profi, Olrhain a Gwarchod yng Nghymru wedi llwyddo i gysylltu â 90% o bobol oedd, hyd at fis Mehefin, wedi bod yn agos at unigolion oedd wedi’u heintio.

Bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi bron i £32m i gyflymu amseroedd canlyniadau’r coronafeirws.