Mae pryder cynyddol am sefyllfa ymwelwyr yn ardal Llanberis, gyda phobol leol bellach yn ofni mynd i’r dref neu i gerdded gan ei bod mor brysur a phellter cymdeithasol yn cael ei anwybyddu.
Mae’r bobol leol wedi bod yn troi at y gwefannau cymdeithasol i leisio eu pryderon ac yn erfyn ar y Cyngor Sir, gwleidyddion a’r heddlu i ymyrryd.
Yn ôl Rachel Steel, mam o Allt y Foel uwch ben Llyn Padarn, dydi hi ddim yn gallu mynd â’r plant allan bellach gan ei bod yn rhy “beryglus.”
“Es i i’r Spar ddoe, ac er fod tapiau ar y llawr i ddangos i bobol i aros oddi wrth ei gilydd, maen nhw yn wynebau ei gilydd! Mae nhw jest yn gwneud fel lician nhw. Mae hi’n mayhem yma!”
Gwersylla a gadael llanast
Yn ôl Rachel Steel, mae yna lawer yn gwersylla o amgylch y lagwnau, ac er bod arwyddion clir yno i ddweud nad ydi gwersylla yn cael ei ganiatáu, mae rhai yno’n aros am yr wythnos meddai.
“Maen nhw’n gwagio’u toiledau yn y coed, a chlytiau budron ar hyd y lle i gyd. Mae hi’n afiach yna.
“Y llyn ydi lle mae’r bobol leol fel arfer yn mynd am dro a mynd â’r plant a ballu, ond dydi hynna ddim yn bosib rŵan.”
Dywedodd fod presenoldeb yr heddlu wedi bod yn dda yn ystod y cyfnod clo ond bellach, mae’n teimlo bod y sefyllfa yn ormod i’r heddlu ddygymod â hi ar eu pen eu hunain gan fod yna ormod o bobol yno.
“Does yna ddim digon o heddlu i ddelio hefo’r broblem!”
Dim lle i barcio, ond dirwy i bobol leol
Oherwydd y tyrfaoedd, mae parcio wedi dod yn broblem fawr yn y dref, ac mae Rachel Steel yn dweud bod ffrind iddi’n nyrs ac wedi cael problemau parcio wrth weithio dros nos yn yr ysbyty.
“Roedd hi wedi dod adra’ yn y bore, a trio parcio’i char a doedd ’na ddim hyd yn oed lle yn ei stryd hi,” meddai.
“Felly roedd yn rhaid iddi adael ei char ar ochr y llyn a cherdded adra, mynd i’w gwely ar ol gweithio drwy’r nos, a mi gafodd hi ffein gan y Cyngor am adael ei char yna! Mae o’n warthus!”
Er bod y trigolion wedi ceisio cysylltu â’r Cyngor i ofyn am gymorth, maen nhw’n cael eu cyfeirio at Barc Padarn.
Ond yn ôl Rachel, dim ond dau warden sydd yno, felly mae’n amhosib iddyn nhw ddelio â’r sefyllfa eu hunain.
Ac mae ei phryderon yn cynyddu gan fod cymaint o densiwn yn yr ardal erbyn hyn fel bod trigolion yn ceisio delio â’r sefyllfa eu hunain, sydd yn achosi ffrae gyda’r ymwelwyr.
“Ac maen nhw jest yn gweiddi a rhegi nôl, a fwy neu lai yn deud mai’n bai ni ydi o ein bod ni’n byw ‘ma!”
‘Dim digon o reolaeth’
“Mae hi’n destun pryder fod llefydd fel Llanberis yn cael eu heffeithio’n wael pan fod gormodedd o bobol yn heidio yno a dim digon o reolaeth ar y sefyllfa,” meddai Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Arfon.
“Mae pobol leol yn gofidio y bydd y feirws yn lledaenu yn yr ardal ac yn flin fod llanast yn cael ei adael a phroblemau parcio yn cynyddu.
“Ni all bod mewn lle gyda gormodedd o bobol fod yn brofiad da i ymwelwyr chwaith a gwn fod nifer o fusnesau lleol yn poeni hefyd.
“Mae angen i Barc Cenedlaethol Eryri, y Cyngor Sir a’r heddlu gael mwy o adnoddau er mwyn ceisio rheoli’r sefyllfa a dylai Llywodraeth Cymru weithio efo’r awdurdodau i geisio ymateb buan i broblem gynyddol.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Gwynedd am ymateb.