Mae Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, yn gwrthod galwadau ar iddo ymddiswyddo tros yr helynt canlyniadau – gan ymddiheuro am y sefyllfa a’r anghyfleustra i filoedd o fyfyrwyr yn Lloegr.

Cyhoeddodd Llywodraeth Prydain dro pedol ddoe (dydd Llun, Awst 17) gan ddweud y byddai modd i fyfyrwyr gael eu hasesu ar sail rhagdybiaeth athrawon, ond dim ond ar ôl i filoedd o raddau Safon Uwch gael eu gostwng.

Er gwaetha’r helynt, mae Gavin Williamson yn parhau i wrthod dweud a fyddai’n barod i gamu o’r neilltu, gan ddweud bod “consensws” amlbleidiol fod angen cymedroli asesiadau athrawon ar ôl i arholiadau gael eu canslo yn sgil y coronafeirws.

Mae’n mynnu nad oedd Ofqual wedi cyflwyno’r drefn raddio roedd y Llywodraeth wedi ei haddo, a hynny wrth i brifysgolion alw am gefnogaeth frys i sicrhau nad yw myfyrwyr yn colli eu llefydd dewis cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae’n bosib y gallai prifysgolion ofyn i ddarpar-fyfyrwyr ohirio am flwyddyn gan fod llefydd wedi’u llenwi eisoes.

Ymddiheuriad

“Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro, dweud sori wrth yr holl bobol ifanc hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn,” meddai Gavin Williamson ar raglen Today ar Radio 4.

“Mae hyn yn rhywbeth, yn y lle cyntaf, nad oedd neb ohonom eisiau ei weld ac nad oedd yr un ohonom yn disgwyl ei weld.”

Yn ôl Robert Halfon, cadeirydd y pwyllgor dethol ar addysg, mae’r sefyllfa’n “llanast enfawr” yr oedd e wedi rhybuddio y gallai rhoi dyfodol myfyrwyr difreintiedig mewn mwy o berygl na phobol eraill.

Ond mae’n gwrthod dweud ar bwy mae’r bai.

Bai ar Gavin Williamson

Bai Gavin Williamson yw’r sefyllfa, yn ôl y Blaid Lafur.

Yn ôl Emma Hardy, mae’r oedi wedi creu “pen tost” i brifysgolion ac mae’n dweud na fyddai Gavin Williamson “yn fy nhîm i pe bawn i’n Boris Johnson”.