Roedd nifer yr achosion o iselder ymhlith oedolion yng ngwledydd Prydain bron â dyblu yn ystod y cyfnod clo, yn ôl ystadegau newydd.

Fe wnaeth 9.7% ddioddef rhyw fath o iselder rhwng Gorffennaf y llynedd a Mawrth eleni, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond roedd y ffigwr yn 19.2% ym mis Mehefin eleni – bron i un o bob pump.

Fe wnaeth y mwyafrif helaeth (84%) ddweud bod straen a gorbryder wedi arwain at iselder, gyda 42% yn dweud bod hynny wedi effeithio ar eu gallu i gynnal perthnasau.

Cafodd yr un 3,500 o bobol eu hasesu cyn ac yn ystod y cyfnod clo.

Oedolion 16-39 oed, menywod, y rhai tlotaf yn y gymdeithas a phobol ag anableddau oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael pwl o iselder ym mis Mehefin.

Gall symptomau gynnwys teimlo’n anhwylus a cholli diddordeb a diffyg mwynhad wrth wneud pethau cyffredin.

Difrifoldeb y sefyllfa

Fe wnaeth 12.9% gael symptomau cymhedrol neu ddifrifol, tra bod 6.2% eisoes yn profi iselder ar y fath raddfa cyn y pandemig.

O blith y rheiny, roedd 62% yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig – o gymharu â 15% oedd yn dweud hynny heb deimlo’n isel neu iselder cymhedrol.

Dim ond 3.5% oedd yn teimlo’n well nag arfer yn ystod y cyfnod clo.