Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bydd mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu creu ym meysydd parcio’r sir.
Machynlleth a Llanidloes fydd y cyntaf i gael mannau gwefru, a bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i chwe lleoliad arall ym Mhowys yn fuan.
“Rydym yn falch iawn o nodi fod y cyntaf o’n rhwydwaith o fannau gwefru trydan yn barod i’w defnyddio,” meddai’r Cynghorydd Heulwen Hulme, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar yr Amgylchedd.
“Mae’r Cyngor wedi darparu’r rhain er budd trigolion ac ymwelwyr, a byddan nhw’n ein helpu ni i symud i ddyfodol carbon isel a darparu cyfleusterau gwefru mwy hwylus ar draws y sir.”
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi y bydd gwaharddiad ar werthu ceir petrol, diesel a hybrid newyd yn dod i rym erbyn 2035.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys, bydd meysydd parcio yn y Trallwng, y Drenewydd, Llanandras, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu hefyd yn cynnig gwasanaeth gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol agos.