Mae ymosodiad o’r newydd yn Kabul yn gysgod tros Ddiwrnod Annibyniaeth Affganistan.
Fe ddaw ar drothwy trafodaethau rhwng llywodraeth y wlad a’r Taliban.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un ei anafu neu unrhyw eiddo ei ddifrodi.
Yn ôl y llywodraeth, cafodd y ffrwydron eu tanio o gerbydau yng ngogledd a dwyrain y brifddinas ac yn ôl tystion, fe wnaethon nhw lanio mewn rhan o’r brifddinas lle mae swyddogion y llywodraeth a diplomyddion yn byw.
Fe ddaw drannoeth cyhoeddiad y llywodraeth nad ydyn nhw’n bwriadu rhyddhau 320 o garcharorion sy’n aelodau’r Taliban tan eu bod nhw’n fodlon rhyddhau milwyr sydd wedi’u cadw’n gaeth.
Mae’n debygol y bydd y sefyllfa ddiweddaraf yn arwain at oedi wrth drafod heddwch – rhywbeth mae’r Unol Daleithiau’n ei geisio ers tro.
Yn ôl llefarydd y Taliban, doedd y mudiad ddim yn ymwybodol o’r ymosodiad yn Kabul.