Mae plismon croenddu yn dwyn achos yn erbyn Heddlu Llundain ar ôl iddo fe gael ei stopio yn ei gar yn ne’r ddinas ar Fai 23.
Fe wnaeth Charles Ehikioya, 55, recordio’r digwyddiad oherwydd roedd modd gweld nad oedd camera ar gorff y plismon yn gwneud hynny.
Mae’n dweud iddo gael ei stopio am mai dyn croenddu yw e, a’i fod e wedi cael ei aflonyddu’n hiliol.
Mae’n dweud ymhellach nad oedd ganddo ddewis ond dwyn achos oherwydd na chafodd ei gŵyn ei chymryd o ddifri.
“Yn fy marn i, nid y sefydliad cyfan sydd fel yna, ond rhai unigolion sy’n achosi’r broblem,” meddai wrth Radio 4.
“Mae’n drist nad yw rhai pobol eisiau clywed hynny.”
Datganiad yr heddlu
Dywedodd Heddlu Llundain wrth y Press Association eu bod nhw wedi derbyn cŵyn yn fewnol ar Fai 24, ond nad oedd “tystiolaeth o gamymddwyn”.
Yn ôl yr heddlu, cafodd Charles Ehikioya ei stopio yn ardal Croydon am ei fod e’n gyrru’n gyflym ac roedd hi’n ymddangos iddo yrru’n syth heibio golau coch.
Cafodd ei holi am ei drwydded yrru fel prawf fod ganddo fe yswiriant i yrru’r car ac nad oedd y cerbyd wedi’i ddwyn.
Fe wnaethon nhw hefyd wirio nad oedd e wedi bod yn yfed nac yn defnyddio’i ffôn symudol.
Fe wnaeth e wadu ar y pryd ei fod e’n gyrru mewn modd “anarferol”, ac fe wnaeth yr heddlu adael pan wnaeth e ddangos ei fathodyn heddlu iddyn nhw.
“Y rheswm pam dw i’n credu ’mod i wedi cael fy nhynnu drosodd yw… eu bod nhw wedi gweld dyn croenddu yn gyrru car,” meddai.
“Dw i jyst yn teimlo’u bod nhw wedi gwneud hyn am fy mod i’n groenddu.”
Pwyleisiodd yr heddlu nad oedden nhw wedi cymryd camau pellach yn ei erbyn.