Mae M&S wedi cyhoeddi bod hyd at 7,000 o swyddi’n cael eu torri wrth iddyn nhw ymateb i heriau’r coronafeirws.

O’r siopau y bydd y rhan fwyaf o’r swyddi’n cael eu colli, gan effeithio ar ryw 12% o 60,000 o staff y cwmni, yn ogystal â gweithwyr rhanbarthol a’r rhai mewn canolfannau cymorth.

Mae disgwyl i’r swyddi gael eu colli dros y tri mis nesaf.

Daw’r cyhoeddiad wythnos ar ôl i Debenhams gyhoeddi eu bod nhw am dorri 2,500 yn rhagor o swyddi.

Y disgwyl yw y bydd y rhan fwyaf o swyddi M&S yn mynd trwy ddiswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau cynnar, tra bydd swyddi newydd yn cael eu creu drwy fuddsoddi ymhellach mewn warws ar-lein a warws ar gyfer bwyd.

Daeth cadarnhad fis diwethaf fod 950 o swyddi’r cwmni’n cael eu colli ymhlith rheolwyr ac yn eu prif swyddfa.

Cwympodd gwerthiant dillad a chartref 29.9% yn ystod y deufis ers i siopau agor eu drysau eto wedi’r coronafeirws, tra bod gwerthiant yn y siopau ar y cyfan wedi gostwng 47.9% a 39.2% ar-lein.

Ond roedd gwerthiant bwyd i fyny 2.5% yn ystod yr 13 wythnos hyd at Awst 20, a 2.5% yn ystod y deufis ers agor eu drysau eto.