Mae ymchwil newydd yn dangos bod rhieni yng Nghymru yn taflu 40,000 o wisgoedd ysgol er eu bod yn dal i fod mewn cyflwr da.

Mae’r astudiaeth wedi dod i’r casgliad bod un o bob deg o rieni yn taflu eitemau unwaith y bydd eu plant wedi tyfu’n fwy na’r dillad.

Byddai’n well gan 40% o rieni yng Nghymru daflu dilledyn na cheisio ei atgyweirio.

O ran prynu dillad newydd, mae’r astudiaeth yn dangos bod 84% o rieni yng Nghymru bob amser yn prynu gwisg ysgol newydd i’w plant – sy’n fwy nag unrhyw un o wledydd Prydain.

‘Gwneud y gorau i’w plant’

Eglurodd Dr Jo Hemmings, Seicolegydd Ymddygiad, fod yna nifer o resymau pam fod rhieni’n amharod i brynu gwisg ysgol ail-law ar gyfer eu plant ac yn parhau i brynu dillad newydd blwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Yn gyntaf, mae’r gair‘ ail-law’ yn ymddangos nad yw rhieni rywsut yn gwneud y gorau i’w plant,” meddai.

“Mae gan ‘newydd sbon’ symbolaeth lawer mwy cadarnhaol.

“Yn ogystal â hyn, mae rhieni’n gwybod y gall plant fod yn feirniadol iawn o’i gilydd o ran eu dillad.”

‘Stigma’

Er i un o bob deg gyfaddef iddyn nhw daflu gwisg ysgol plant ar ôl iddyn nhw fynd yn rhy fach, mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o roi eu hen ddillad i siopau ail-law nag y maent i brynu dillad ail-law.

“Does dim cysylltiad amlwg rhwng ymdrechion pobol i roi dillad i siopau elusennol, a’u hagweddau i beidio prynu dillad ail-law, yn enwedig pan mae’n dod i wisg ysgol,” meddai Lars B Andersen, Rheolwr Gyfarwyddwr My Nametags, sy’n arbennigo mewn dillad ysgol.

“Mae rhieni’n awyddus i ofalu am wisg ysgol eu plant, gan sicrhau bod popeth wedi’i labelu fel nad yw’n mynd ar goll ond o ran rhoi bywyd newydd i eitemau, mae dal stigma nad yw’n ddigon da.

“Ar adeg pan fo llawer o deuluoedd yn gorfod bod yn ofalus o’u harian, mae’n bwysig i ni i gyd ailasesu ein hagweddau tuag at gael gwared ac ailddefnyddio dillad, ac ystyried yr effaith gadarnhaol y gallai ychydig o newidiadau bach ei chael ar y blaned ac yn ariannol.”