Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi ei bod yn dod ag ysgoloriaeth Llyndy Isaf i ben.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn disgwyl gwneud colledion o oddeutu £200m yn sgil y pandemig coronafeirws.
Cafodd yr ysgoloriaeth flynyddol ei sefydlu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn partneriaeth â Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2012.
Roedd yr ysgoloriaeth 13 mis yn cynnig y cyfle i ffermwyr ifanc rhwng 18-26 oed ennill profiad ymarferol drwy reoli fferm yn Nant Gwynant yn Eryri.
Mae ysgolorion wedi helpu i reoli rhywogaethau ymledol ac yn cael eu hannog i wneud cyrsiau hyfforddi, fel gyrru tractor, tynnu trelar, hwsmona a chneifio.
Yn ogystal â hyn, roedd ysgolorion llwyddiannus hefyd yn derbyn cyflog a fflat dwy lofft ar y fferm am flwyddyn.
‘Falch o fod wedi cefnogi ffermwyr ifanc’
“Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi cefnogi ffermwyr ifanc trwy’r ysgoloriaeth dros y saith mlynedd diwethaf ac rydyn ni wrth ein bodd bod Teleri Fielden, y person olaf i dderbyn ein hysgoloriaeth, yn dilyn heriau newydd yn ei gyrfa ysbrydoledig,” meddai’r llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda ffermwyr a theuluoedd ifanc ar ein tir tenant ar draws y DU ac yn gobeithio cefnogi llawer mwy wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol ffermio.”
Y llynedd, lansiodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol brentisiaeth newydd yn Rhostiroedd Gogledd Efrog, ac mae’r ymddiriedolaeth hefyd yn cynnig rhaglen profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr milfeddygol yn Swydd Caergrawnt.
Cefndir yr ysgoloriaeth
Ar ôl i’r cyn-berchennog, Ken Owen, ymddeol yn 2012, fe gynigiodd y fferm i’r Ymddiriedolaeth.
Roedd wedi bod yn gweithio mewn cytgord gyda natur ac roedd eisiau i’r un dulliau barhau.
Mae fferm Llyndy Isaf ger Nant Gwynant yn cynnwys tir wrth droed yr Wyddfa, Llyn Dinas a Dinas Emrys, olion y gaer lle’r oedd y ddraig goch a’r ddraig wen wedi ymladd, yn ôl chwedl.