Gallai bron i 60,000 o swyddi gael eu creu yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn sgil buddsoddiad y Llywodraeth mewn prosiectau seilwaith allweddol, yn ôl adroddiad newydd gan TUC Cymru a gafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Awst 18).
Mae’r ymchwil, a wnaed ar ran TUC Cymru gan Transition Economics, yn dangos y gallai gwario’n gyflym ar brosiectau fel tai cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus a datgarboneiddio gyfrannu’n sylweddol at adferiad yr economi.
Wedi’i ddadansoddi fesul sector, gallai’r buddsoddiad olygu:
- 27,000 o swyddi mewn adeiladu tai ac ôl-osod effeithlonrwydd ynni
- 18,000 o swyddi mewn uwchraddio trafnidiaeth
- 9,000 o swyddi ym maes ynni, gweithgynhyrchu ac uwchraddio seilwaith band eang
- 5,000 o swyddi mewn gwelliannau tir, coedwigaeth, ac amaethyddiaeth
Byddai’r swyddi hyn o fudd i rai o’r sectorau a’r demograffeg sy’n cael eu taro galetaf gan yr argyfwng Covid-19.
Byddai dros 75% o’r swyddi yn cael eu creu mewn sectorau sy’n draddodiadol yn cyflogi gweithwyr nad ydyn nhw’n raddedigion.
‘Cadw pobl mewn gwaith’
“Y ffordd orau o ddiogelu ein heconomi yw cadw pobl mewn gwaith, a dyna pam ein bod wedi bod yn galw am estyniad i’r cynllun cadw swyddi y tu hwnt i fis Hydref,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Ond mae angen gweithredu ar frys hefyd i greu cyfleoedd swyddi newydd, teg a chynhwysol i bob gweithiwr yng Nghymru.
“Rydym wedi dioddef o danfuddsoddiad hirdymor yn ein seilwaith cenedlaethol. Bydd buddsoddi mewn prosiectau gwyrdd ac uchelgeisiol yn awr nid yn unig yn creu gwaith i filoedd o bobl yng Nghymru ond bydd hefyd yn cynnig manteision hirdymor enfawr i economi Cymru, sy’n arbennig o bwysig wrth i ni adael yr UE.
“Mae costau diffyg gweithredu yn llawer mwy na’r costau o wneud y buddsoddiadau hyn. Mae angen i Lywodraeth y DU ddarparu’r lefel o gyllid sydd ei hangen ar Gymru.”