Mae disgwyl i ddegau ar filoedd o fyfyrwyr Lefel A yn Lloegr dderbyn graddau uwch yn dilyn tro pedol gan y Llywodraeth.

Yn sgil beirniadaeth gan fyfyrwyr, penaethiaid ac Aelodau Seneddol Ceidwadol, fe fydd graddau Lefel A nawr yn seiliedig ar asesiad athrawon yn hytrach na’r fformiwla ddadleuol gafodd ei dyfeisio gan y rheoleiddiwr Ofqual.

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams a Gogledd Iwerddon hefyd wedi cyhoeddi y bydd graddau’n seiliedig ar asesiad athrawon o ran canlyniadau Safon Uwch a TGAU.

Bu’n rhaid i Lywodraeth yr Alban wneud tro pedol wythnos diwethaf wedi beirniadaeth lem o’r system yno.

Ymddiheuriad

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson a’r Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson wedi amddiffyn y system, a oedd wedi arwain at bron i 40% o raddau’n cael eu gostwng.

Mae Gavin Williamson heddiw (Dydd Llun, Awst 17) wedi ymddiheuro am “y loes a achoswyd i bobl ifanc a’u rhieni” oherwydd y broses, a gafodd ei dyfeisio yn dilyn canslo’r arholiadau oherwydd y pandemig.

Roedd Boris Johnson, sydd ar wyliau yn yr Alban, wedi cynnal trafodaethau brys gyda Gavin Williamson ac uwch swyddogion fore Llun.

Fe fydd y newid hefyd yn berthnasol i ganlyniadau TGAU yn Lloegr, a fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

“Buddugoliaeth”

Dywedodd yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer: “Mae’r Llywodraeth wedi cael misoedd i fynd i’r afael a’r arholiadau a nawr wedi cael ei gorfodi i wneud tro pedol wedi dyddiau o ddryswch.

“Mae hyn yn fuddugoliaeth i filoedd o bobl ifanc sydd wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn ystod yr wythnos ddiwethaf.”