Wrth ymateb i’r tro pedol gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y bydd pob gradd Safon Uwch a TGAU yn seiliedig ar asesiadau athrawon yn hytrach nag ar algorithmau, dywedodd Plaid Cymru fod hwn yn gyhoeddiad sydd i’w groesawu’n fawr, “er ei fod yn hwyr iawn yn dod.”
Dywedodd Sian Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg, fod y pwysau gan y blaid, disgyblion, athrawon a rhieni yn golygu yn awr y bydd pobl ifanc yn derbyn y graddau “y dylen nhw fod wedi eu derbyn o’r cychwyn cyntaf”.
“Pobl ifanc Cymru sydd piau’r fuddugoliaeth hon, wedi iddyn nhw ddangos gwell arweinyddiaeth na’u llywodraeth eu hunain,” meddai.
Ond er y tro pedol, mae Sian Gwenllian hefyd yn galw am “ymchwiliad llawn i’r llanast hwn” ac yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion am yr hyn yr aethon nhw drwyddo yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Peidiwch eto â chwestiynu proffesiynoldeb a chywirdeb ein hathrawon a gwaith caled ein disgyblion. Am heddiw, gadewch inni ddathlu bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.”
‘Cyfnod eithriadol’
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cysgodol yr wrthblaid Suzy Davies AS fod hwn wedi bod yn gyfnod “eithriadol.”
“Bydd y newyddion hwn yn rhyddhad i’r miloedd o fyfyrwyr Safon Uwch a oedd yn edrych ar raddau is yr wythnos diwethaf nag y rhagwelwyd y byddent yn ei dderbyn,” meddai.
“Bydd hefyd yn rhyddhad i ddisgyblion sy’n disgwyl canlyniadau yr wythnos hon yn ogystal â chydnabyddiaeth o faint o ymdrech y mae athrawon yn ei roi i mewn i hyn.”
Croesawodd David Evans, Ysgrifennydd Cymru dros Undeb Cenedlaethol yr Undebau Addysg y cyhoeddiad hefyd gan ategu fod angen ymddiried mewn athrawon a darlithwyr.
“Llongyfarchwn y bobl ifanc ar uno gyda’n gilydd a cheisio am gyfiawnder. Rydym yn gobeithio nawr y gall prifysgolion fod yn hyblyg, a helpu i gefnogi’r bobl ifanc i sicrhau bod ganddynt ddyfodol yn seiliedig ar eu potensial – nid cyfrifiadau rhaglen gyfrifiadurol ragfarnllyd. ”