Nid oes unrhyw farwolaethau pellach ymhlith pobl sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws wedi cael eu cofnodi yng Nghymru o fewn y 24 awr ddiwethaf, yn ôl swyddogion iechyd.

Mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru ers dechrau’r pandemig yn 1,589.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod cyfanswm yr achosion yn y wlad wedi cynyddu o 14, gan ddod a chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau i 17,575.