Mae dynes 40 oed wedi bod gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio ei mab 10 oed.
Cafodd Olga Freeman ei chadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos gerbron ynadon heddiw (Dydd Llun, Awst 17) ar gyhuddiad o lofruddio ei mab, Dylan Freeman, yn eu cartref yn Acton, Llundain.
Cafodd ei harestio ar ôl iddi fynd i orsaf yr heddlu yn oriau mân fore dydd Sul a chafodd corff ei mab ei ddarganfod yn ei chartref yn ddiweddarach.
Fe fydd hi’n ymddangos gerbron yr Old Bailey ddydd Mercher (Awst 19). Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Dylan Freeman.
Roedd tad y bachgen, Dean Freeman, yn Sbaen pan fu farw ei fab ac mae wedi rhoi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel plentyn “hyfryd, deallus ac artistig oedd wrth ei fodd yn teithio, ymweld ag orielau a nofio.”
Roedd Dean Freeman, sy’n ffotograffydd adnabyddus, ac Olga Freeman wedi ysgaru.
Yn ôl un o’r cymdogion Abby Gorton, roedd gan Dylan Freeman “anableddau difrifol” ac roedd ei fam mewn “sefyllfa enbyd ac mae’r cyfnod clo wedi ei wneud yn waeth.”