Llyndy Isaf (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn apelio am arian i achub y darn o Eryri sy’n gartref i chwedl y ddraig goch.

Mae’r mudiad yn gofyn am £1 miliwn i brynu fferm Llyndy Isaf ger Nant Gwynant, sy’n cynnwys tir wrth droed yr Wyddfa, Llyn Dinas a Dinas Emrys, olion y gaer  lle’r oedd y ddraig goch a’r ddraig wen wedi ymladd, yn ôl y stori werin.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, dyw’r fferm ddim wedi’i ffermio’n ddwys ers cenedlaethau ac, o ganlyniad, mae’n gartref i amrywiaeth mawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar prin fel y frân goesgoch a’r hebog tramor.

Os bydd yn cael ei gwerth ar y farchnad agored, medden nhw, mae yna beryg y bydd y 614 erw’n mynd i ddwylo cwmni masnachol a hynny’n bygwth ei chymeriad.

Ymddeol

Y perchennog presennol, Ken Owen, sydd wedi cynnig y fferm i’r Ymddiriedolaeth, ac yntau eisiau ymddeol ar ôl 35 mlynedd o ffermio yno.

Roedd wedi bod yn gweithio mewn cytgord gyda natur, meddai, ac roedd eisiau i’r un dulliau barhau.

Os bydd y mudiad yn llwyddiannus, fe fydd y tir yn dilyn stad Hafod y Llan gerllaw – fe gafodd mwy na 4,000 erw o honno eu prynu am £4 miliwn ganddo yn ôl yn 1998.

“Alla’ i ddim meddwl am yr un lle mwy haeddiannol i gael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth,” meddai rheolwr cyffredinol yr Ymddiriedolaeth yn Eryri, Richard Neale.

“Mae yna beryg mawr, os na fyddwn yn codi’r £1 miliwn i brynu’r fferm a’r llyn, fe allai syrthio i ddwylo masnachol gyda’r holl ansicrwydd sydd ynghlwm wrth hynny am ddyfodol y lle heddychlon hwn.”